Neges y Pasg - Esgob Dorrien
Fy mrodyr a'm chwiorydd annwyl,
Ffydd y Pasg yw ein ffydd, Iesu atgyfodedig a gododd o farw’n fyw! Mae'r bedd yn wag, ac mae ein gobaith wedi’i wireddu. Heddiw gallwn hawlio bod bywyd newydd a llawenydd yn eiddo i ni, mae'r frwydr wedi ei hymladd a "llyncwyd angau mewn buddugoliaeth" (1 Corinthiaid 15.54). Mae Iesu'n fyw! Ac mae angen i'r byd glywed ein Haleliwia!
Heddiw, yn fwy nag erioed, mae angen i'r byd fod yn ymwybodol o wirionedd y groes ac atgyfodiad Iesu, effaith hynny ar ein bywydau a'r gobaith y mae cariad achubol Crist yn ei gynnig i fyd rhanedig, diobaith a thoredig. Mae atgyfodiad Iesu yn dod â diwedd i bechod a marwolaeth, i anghyfiawnder; mae ei gariad yn cysuro'r galarwyr, yn rhwymo'r clwyfedig ac yn agor ein llwybr at Dduw. Yng Nghrist mae pob peth yn cael ei wneud o’r newydd a thrwyddo ef cawn ein "hail-eni “.
Wrth i ni edrych ar y byd, gallwn weld bod angen dybryd am neges y Pasg. Ers diwedd y pandemig, mae'n destun gofid i mi fod canran y rhai nad ydynt yn mynychu eglwys neu gapel ar gynnydd. Mae'n ymddangos bod gan y rhan fwyaf o bobl gred greiddiol mewn bod dwyfol; fodd bynnag, prin yw effaith hynny ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae hyd yn oed defodau newid byd, fel genedigaeth, priodas a marwolaeth yn ymbellhau oddi wrth sacramentau a gweinidogaeth fugeiliol yr eglwys. Rwy'n pryderu bod llai o deuluoedd ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau a phlant yn ein cynulleidfaoedd, a bod aelodau hŷn yn teimlo eu bod wedi eu gwthio i’r cyrion a’u tanbrisio, gyda difaterwch cyffredinol yn taflu’i gysgod ar bob peth.
Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu llawenydd y Crist Atgyfodedig o'r newydd ac annog pobl i gyfranogi ym mywyd llawn a gweinidogaeth yr eglwys. Rwy'n ymwybodol bod eglwys wrth wraidd pob cymuned a'i gorchwyl yw pelydru cariad Duw a chyhoeddi Newyddion Da yr Efengyl. Wrth i ni ddathlu'r Pasg, gadewch i ni fel Esgobaeth ymrwymo ein hunain nid yn unig i gyhoeddi bywyd Atgyfodedig Crist ond ei rannu a chaniatáu iddo fyw o’n mewn ac adfywio ein cymunedau eglwysig.
I bob un ohonom,mae’r Gwaith o efengylu yn dechrau ar stepen drws. Yn wir mae mynychu’r eglwys yn un ffordd o efengylu sydd o fewn gallu pawb. Cofiaf glywed am ficer newydd mewn plwyf yn penderfynu cynnal Cymun bob bore yn ystod yr Wythnos Fawr. Dywedodd y warden mae gwastraff amser fyddai’r cyfan. “Ddaw neb” meddai. Roedd bachgen ifanc yn gwrando,
“Fe ddof i” meddai, ac fe ddaeth bob bore. Yr ail fore daeth ei dad a’i fam gydag ef. Erbyn bore Mercher roedd ei ffrindiau ysgol yno. Roedd y cymdogion yn y gwasanaeth prynhawn Gwener y Groglith a chafwyd Pasg bendithiol yn yr eglwys honno. Gall hyn ddigwydd yn ein heglwysi, nid yn unig adeg y Pasg, ond trwy gydol y flwyddyn, pe baem yn dewis y ffordd hon o efengylu a rhannu bywyd Iesu.
Dymunaf i chwi Basg hapus a bendithiol,
+Dorrien Tyddewi.