Gorseddu Archesgob Cymru

Cafodd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Cherry Vann, ei gorseddu mewn gwasanaeth cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, Casnewydd.
Roedd y seremoni yn dilyn ethol yr Archesgob gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Gorffennaf.
Cafodd Archesgob Cherry ei gorseddu yn y Gadair Archesgobol o flaen yr Allor Uchel. Bydd y Gadair yn aros yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd drwy gydol ei chyfnod fel Archesgob.
Wrth gyrraedd, cafodd yr Archesgob ei chroesawu gan un o’r Corwswyr ifanc. Digwyddodd hwn wrth y ffont yn rhan hynaf yr eglwys gadeiriol, lle sefydlodd Gwynllyw ei eglwys yn y 5ed ganrif. Yn dilyn hyn, bu weithred o edifeirwch dan arweiniad yr Archesgob, wrth iddi benlinio ger y Gadair.
Yn ddiweddarach yn y gwasanaeth, cafodd y llw swyddogol ei dyngu gan ddefnyddio Beibl Archesgobion Mynwy – a ddefnyddiwyd yn seremoniau gorseddu pob Esgob Mynwy blaenorol a ddaeth yn Archesgob Cymru: Edwin Morris, Derek Childs, Rowan Williams, ac yn awr Archesgob Cherry.
Yn dilyn y gorseddiad, a’r croeso gan y gynulleidfa o bob cwr o Gymru a thu hwnt, gymerodd yr Archesgob i sedd ar yr orsedd Archesgobol wrth i Gôr yr Eglwys Gadeiriol ganu The Call of Wisdom gan Will Todd, a gyfansoddwyd ar gyfer Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail ac a ganwyd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ar gyfer ei gwasanaeth Jiwbili Diemwnt.
Yna pregethodd Archesgob Cherry cyn arwain y gynulleidfa wrth iddyn nhw adrodd Credo Nicea, eleni yn nodi i phen-blwydd yn 1700 oed.
Cyflwynodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, corff partneriaeth eglwysi Cymru, yn cyflwyno’r Archesgob i arweinwyr eglwysig a chrefyddol o bob cwr o Gymru, tra gyflwynodd yr Esgob David Morris yr Archesgob i gynrychiolwyr o Eglwys Loegr, Eglwys Iwerddon, Eglwys Esgobol yr Alban ac Archesgob Uppsala, sy’n cynrychioli Eglwysi Porvoo – cymdeithas ecwmenaidd Ewropeaidd o eglwysi Anglicanaidd ac Efengylaidd Lutheraidd, y mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod ohoni.
Daeth gweddïau ar ôl hynny, dan arweiniad disgyblion o Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Teilo yn Esgobaeth Llandaf ac Ysgol Penrhyn Dewi yn Esgobaeth Tyddewi.
Daeth y gwasanaeth i ben gyda Gweithred o Ymrwymiad i genhadaeth yr eglwys, ac orffenodd gydag aelod hŷn o’r Côr yn gofyn i’r Archesgob a fyddai hi’n hyrwyddo lles ac undod yr Eglwys a bod yn Fugail Da i’w phobl ar ôl esiampl Crist.
Yna gorymdeithiodd yr Archesgob a'r clerigwyr allan o'r Eglwys Gadeiriol.
Arweiniwyd y gerddoriaeth ar gyfer y gwasanaeth gan y Cyfarwyddwr Cerdd, Tom Coxhead, a Chôr yr Eglwys Gadeiriol.
Roedd y gwasanaeth yn cynnwys y Kyrie yn y Gymraeg a gyfansoddwyd gan Paul Mealor, a ganwyd yng Nghoroni'r Brenin Siarl yn 2023. Fe'i canwyd gan y bas-bariton ifanc o Gymru, Owain Wyn Rowlands. Cymerodd y cyn-Delynores Frenhinol, Alis Huws, a chwaraeodd yn y Coroni hefyd, ran hefyd.
Arweiniodd Croes Cymru, Croes orymdeithiol a roddwyd gan y Brenin fel rhodd i'r eglwysi yng Nghymru ar gyfer ei chanmlwyddiant, yr orymdaith i'r eglwys gadeiriol.