Eglwys arall yn dioddef difrod
Adroddwyd yn ddiweddar fod yr Esgobaeth wedi dioddef digwyddiadau fandaliaeth a lladrad yng nghyn Ysgol Wirfoddol Tremoilet, Pentywyn ac Eglwys Santes Fair, Llanfair-ar-y-bryn, yn agos at Lanymddyfri. Yn anffodus, darganfuwyd ddoe (dydd Sul 23 Gorffennaf) fod Eglwys Seintiau Cewydd a Pedr, Steynton hefyd wedi dioddef ymgais i ddwyn. Tynnwyd tua thair troedfedd o gludydd mellt yr Eglwys oddi ar y clipiau oedd yn ei ddal mewn lle, mewn ymgais i’w dynnu’n gyfan gwbl oddi ar ochr y twr. Byddai pwy bynnag oedd wedi gwneud yr ymgais hyn wedi bod yn weladwy iawn o’r heol, oherwydd lleoliad y twr.
Nid yn unig yw’r digwyddiadau hyn yn hynod rwystredig, siomedig ac yn ddrud i’n Heglwysi, sy’n gweithio’n galed i gynnal a chadw eu hadeiladau, maent hefyd yn achosi difrod i ffabrig yr adeiladau gall achosi problemau pellach iddynt.
Adroddwyd y drosedd i’r heddlu a byddent yn patrolio’r ardal. Dygwyd plwm oddi ar do’r Eglwys yn gynharach yn y flwyddyn hefyd.
Gofynnwn i’n Gymdeithasau Eglwysig i barhau i fod yn wyliadwrus ac adrodd unrhyw weithgareddau amheus o gylch adeiladau’r Esgobaeth, neu wybodaeth bellach ynghylch unrhyw un o’r digwyddiadau sydd wedi ei hadrodd yn yr wybodaeth hon i’r heddlu ar 101 neu i Swyddfa’r Esgobaeth ar 01267 236145.