Mynwent daclusaf Prydain
Mae eglwys y plwyf Sant Ceinwr, Llangynnwr, wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig. Roedd Sant Ceinwr yn un o ddeuddeg eglwys ar draws y Deyrnas Unedig- a'r unig un o Gymru – yn brwydro am Wobr Naylor am Ragoriaeth mewn cynhaliaeth Eglwys, wedi ei drefnu gan National Churches Trust mewn partneriaeth gyda'r Pilgrim Trust. Cyhoeddwyd y gwobrau mewn seremoni yn Llundain ar ddydd Llun Tachwedd y 6ed a chipiodd Sant Ceinwr y wobr i Gymru ac yn adran y Deyrnas Unedig.
Un cwestiwn i'r ymgeiswyr oedd: Beth yw'r peth gorau am fod yn ymwneud â chynhaliaeth eglwys? Atebodd tîm cynhaliaeth Llangynnwr: “Rydym yn rhagweld,drwy gynllunio olyniaeth gweithredol, y bydd y grŵp yma dal yn bodoli mewn ryw ffurf mewn deg mlynedd. Y cyfeillgarwch, o fewn y grŵp o bobl arbennig, yn hyrwyddo agwedd bositif o “allu gwneud”, beth bynnag fydd y sialensau, a helpu eraill sydd yn gwynebu amser heriol am nifer o resymau, sydd wedi dod yn amlwg yn ystod cyfnod Covid ac yn cael cymaint o effaith ar fywydau pobl. Mae'n braf bod nôl a chael cwtsh Cymreig.”
Wrth gyflwyno y wobr dywedodd y Canon Ann Easter: “ Roedd y beirniaid yn hoffi yn fawr iawn bod yr eglwys hon yn drefnus iawn, mae ei chynllun cynhaliaeth yn 'spot on', ac yn fanwl. Hoffai'r beirniaid eu llongyfarch ar eu gallu i gynnwys gwirfoddolwyr haelionus sydd yn rhoi o'u hamser. Roeddent hefyd wedi hoffi y modd roedd y cais wedi ei baratoi a'r ffordd maent yn sôn yn bositif am eu gwirfoddolwyr a gymaint maent yn eu gwerthfawrogi.”
Dywedodd Canon Matthew Hill, Deon Ardal Weinidogaethol Caerfyrddin: “Mae yna dîm ymroddedig a galluog o leygwyr yn Llangynnwr. Mae eu gwaith yn ganmoladwy ac maent yn haeddiannol o'r wobr. Mae'n wych bod eglwys yn yr esgobaeth yn derbyn gymaint o sylw a chlod y Deyrnas Unedig.”