Swyddi
Swyddfa'r Esgobaethol
Ymunwch â'n Tîm:
Cynorthwyydd Gweinyddol (Adran Eiddo)
Lleoliad: Swyddfa Esgobaeth Tyddewi, Abergwili, Caerfyrddin (gyda chyfarfodydd achlysurol oddi ar y safle)
Oriau: Llawn amser (34 yr wythnos)
Cyflog: £22,780 - £24,531 (mae cynllun pensiwn cyfrannol hael ar gael)
Ydych chi'n unigolyn trefnus a brwdfrydig sy'n dymuno gwneud cyfraniad ystyrlon mewn amgylchedd tîm cefnogol? Mae Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol diwyd i ymuno â'n tîm gweinyddol bach a chyfeillgar.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil lle bydd gennych ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod ein swyddfa yn gweithredu'n ddidrafferth o ddydd i ddydd, yn enwedig gwaith yr Adran Eiddo, a byddwch yn cefnogi gwaith ehangach yr Esgobaeth.
Dyma fyddwch chi’n ei wneud:
- Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol gan ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office
- Cymryd cofnodion cywir mewn amryw o wahanol gyfarfodydd a rheoli dyddiaduron yn effeithlon
- Cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth eang o ymwelwyr, pobl sy’n ffonio, a gohebwyr e-bost
- Ymdrin ag ymholiadau amrywiol (e.e. cyfleustodau, yswiriant, Asiantau Gosod, Awdurdodau Lleol, contractwyr) sy'n ymwneud ag eiddo, gan gynnwys ysgolion, adeiladau preswyl ac eiddo a lesir
- Cynorthwyo i gynnal Cronfa Ddata Eiddo yr Esgobaeth
Dyma fyddwn ni’n chwilio amdano:
- Rhywun sydd â phrofiad clir o gymryd cofnodion
- Rhywun sy'n aelod da o dîm gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn rhagweithiol
- Rhywun sydd â llygad craff am fanylion ac ymagwedd hyblyg at dasgau
- Rhywun sy'n hyderus yn defnyddio Microsoft Office ac wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol
- Rhywun sydd ag empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
- Byddai rhywun sydd â'r gallu i siarad Cymraeg (neu barodrwydd i fynychu cwrs Cymraeg) yn ddymunol
Os ydych yn chwilio am rôl ystyrlon mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, a’ch bod yn mwynhau helpu eraill gan wneud i bethau weithredu'n ddidrafferth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ddisgrifiad Swydd a Manyleb Person
NI FYDDWN YN DERBYN CEISIADAU CV.
Dyddiad cau: 8 Awst 2025
Dychwelwch eich ffurflen gais at:
diocese.stdavids@churchinwales.org.uk
Miss Emma O’Connor, Rheolwr Gweinyddu ac Eiddo, Swyddfa’r Esgobaeth, Abergwili SA31 2JG
Syddi Clerigol
OFFEIRIAD MEWN GOFAL i Ardal Gweinidogaeth Leol BRO GWENDRAETH
Mae'r rôl hon ar gyfer clerig sydd â’r prif gyfrifoldeb bugeiliol dros eglwysi Sant Lleian, Gors-las; Dewi Sant, Saron; Santes Ann, Cross Hands; Sant Edmwnd, Tŷ-croes a Santes Edith, Llanedi, gyda’r ficerdy yn Cross Hands.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm ac yn unigolyn hawdd troi ato/i. Bydd yn ystyriol o wahanol arddulliau addoli, gydag awydd i weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn meddu ar galon fugeiliol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu’r iaith yn hanfodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Archddiacon Caerfyrddin (07398 587018)