Gofal am y Greadigaeth
Fel Cristnogion rydym yn ystyried y weithred o ofalu am yr amgylchedd naturiol, creadigaeth Duw, yn ddyletswydd sylfaenol., a gan ein bod yn byw dan fygythiad cynhesu byd-eang a rhywogaethau'n cael eu colli, mae'n rhaid ymgymeryd â'r dyletswydd hwn ar frys.
Fel esgobaeth rydym yn anelu at fyw yn gynaladwy drwy weithredoedd ymarferol ar bob lefel, o drefniadau esgobaethol a'r ymrwymiad i fod yn Esgobaeth Eco, i gynulleidfaoedd lleol yn dod yn Eglwysi Eco.
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau dilynwch y lincs isod. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Gofal am y Greadigaeth, a Chynaladwyedd, y Parch Marcus Zipperlen drwy ebostio marcuszipperlen@cinw.org.uk
Tuag at Sero Net
O lanhau cafnau i ailwampio’r system wresogi, caiff cynllun 10-pwynt ei lansio i helpu eglwysi i ostwng eu ôl-troed carbon, cyn Sul y Creu.
Mae’r canllawiau yn awgrymu camau y gall pob eglwys eu cymryd – gan ddechrau gyda chamau bach ac adeiladu at dargedau mwy. Cawsant eu cynhyrchu fel rhan o ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru i gyrraedd sero net carbon erbyn 2030 a bydd yn gynnig cyfle i eglwysi i ddangos fod “gweithredoedd yn well na geiriau”.