Hafan Ffydd Adfent 2020 Gweddi dros Gymru

Gweddi dros Gymru

At holl gymunedau Cymru oddi wrth Esgobion yr Eglwys yng Nghymru

Tachwedd 2020

Wrth fod hwyrnosau’r hydref yn tynnu atynt a Christnogion yn dynesu at dymor yr Adfent, sy’n gyfnod o baratoi at y Nadolig, daw thema’r goleuni a’r tywyllwch yn fwyfwy perthnasol. Gallwn deimlo bod yr hwyrnosau tywyll yn oer ac anghynnes pan fo hyd yn oed y golau yn ariannu a gwelwi. Ar adegau fel hyn cawn mai’r adnod o’r Beibl sy’n taro tant ynom ni, yr esgobion, ac ymhob Cristion mae’n debyg, yw:

‘Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.’

(Yr Efengyl yn ôl Ioan, Pennod 1 adnod 5)

Waeth pa mor dywyll y bo pethau, p’un ai oherwydd COVID neu ofalon a thrafferthion eraill, cred y Cristion fod goleuni Duw (goleuni gwirionedd, goleuni cyfiawnder, goleuni cariad) yn llewyrchu yn y byd a bod gobaith gwastadol oherwydd daioni a chariad Duw. I ni, mae’r goleuni hwnnw yn llewyrchu ar ei fwyaf cyflawn yn Iesu, y credwn mai ef yw Duw wrth ei waith yn dod i mewn i’n byd i rannu yn ein poen ac i ddwyn iachâd.

Ni rennir y ffydd hon gan bawb yng Nghymru, ac ysgrifennwn hyn nid yn rhodresgar ond mewn ysbryd o ostyngeiddrwydd, oherwydd carem eich gwahodd, pe medrech, i ymuno â ni i weddïo am iachâd a bendith Duw ar ein cenedl yr Adfent hwn. Byddwn ni, y chwe esgob Anglicanaidd, yn gweddïo’r weddi isod bob hwyrnos am 6.00pm o ddiwedd Tachwedd tan y Nadolig, a byddem yn falch pe gallech ymuno. Bydd y sawl sy’n wahanol ei ffydd neu draddodiad yn dymuno addasu’r geiriau i gyd-fynd â’i gred. Cymerwyd hynny i ystyriaeth a rhoddwyd y geiriau Cristnogol mewn bachau petryal; dewiser y geiriau a’r ffyrdd ar weddi sydd orau gennych chi. Os mai dyneiddiwr neu agnostig ydych chi rydym yn parchu eich daliadau gan ddeall na fydd y weddi hon yn iawn i chi. Er hynny rydym yn sicr fod yr iachâd, y nerth, y tosturi a’r dewrder y byddwn ni’n gweddïo amdanynt yn bwysig i bawb: boed â ffydd neu heb ffydd. Beth bynnag yw ein cred gallwn, bawb ohonom, ddymuno golau yn y galon a mwyniant llesâd i bob un yng Nghymru y tymor hwn.

Dyma ein gweddi:

Dad nefol, yr wyt ti’n oleuni ac yn fywyd mewn byd o drallod.
Dyro dy iachâd i’r rhai sy’n glaf,
dy nerth i’r rhai sy’n dioddef,
dy dosturi i’r rhai sy’n galaru,
a’th ddewrder i’r rhai sy’n gweithio er iacháu a gwasanaethu eraill.
Bendithia genedl y Cymry ag ysbryd bywhaol dy gariad,
a chaniatâ i ni dy drugaredd,
[a ddatguddiwyd ym mherson Crist dy Fab.] Amen.

John D. E. Davies, Archesgob Cymru

Andrew John, Esgob Bangor

Gregory K. Cameron, Esgob Llanelwy

Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi

June Osborne, Esgob Llandaf

Cherry Vann, Esgob Mynwy