Cyngor Esgobaeth Tyddewi ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol
Yn ôl ein cyfansoddiad mae'r holl weithgareddau yn waith moesol cyffredinol sy'n digwydd o fewn Esgobaeth Tyddewi.
Plant Dewi
Y ffocws pennaf yw datblygiad cymuned, ac mae hwn cael ei wireddu drwy'r prif brosiect sef Plant Dewi.
Elusen gofrestredig sy'n cynnig cymorth i blant a theuluoedd ar draws yr esgobaeth yw Plant Dewi. Mae'n ceisio creu man diogel i gyfarfod â phobl sydd mewn angen, drwy Ganolfannau Teuluol, Cyrsiau i Rieni, Grwpiau Teuluoedd gyda'i Gilydd, gwaith Plant ac Ieuenctid, a nifer o brosiectau eraill.
Tir Dewi
Tir Dewi yw'r rhwydwaith sy'n cynnig cefnogaeth i ffermwyr.
Cafodd ei sefydlu yn 2015, ac mae'n cynnig clust i wrando yn ogystal â help llaw i deuluoedd cefn gwlad sy'n wynebu anawsterau ariannol neu emosiynol, a hynny ar draws tair sir yr esgobaeth.
Sylfaenydd Tir Dewi oedd Swyddog Materion Gwledig yr Esgob, yr Hybarch Eileen Davies, oedd hefyd yn ffermio ei hun, ac a welodd ddiffyg yn y ddarpariaeth oedd ar gael yn lleol ar gyfer dynion, menywod a phlant.
Caiff ei ddisgrifio gan y cyd-lynydd Gareth Davies fel, "clust i wrando a gwasanaeth sy'n dangos y ffordd". Mewn geiriau eraill, ei rôl yw i adnabod yr anawsterau all wynebu ffermwyr a'u teuluoedd, a'u cynorthwyo i ddod o hyd i'r person neu'r lle all fod o gymorth i ddatrys y problemau.
Trwy weithredu gyda'n gilydd yw'r unig ffordd y gallwn gyrraedd y rheiny sy'n fwyaf bregus, a dod o hyd i ffordd gadarnhaol o ddatrys problemau'r bobl hynny sy'n ffermio Tir Dewi (Yr Hybarch Eileen Davies)
Mae Tir Dewi yn chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd i gynorthwyo gyda'r gwaith o ateb galwadau ffôn. Cynigir hyfforddiant, felly cysylltwch â Gareth os oes gennych ddiddordeb gareth@tirdewi.co.uk or on 07970 180408
ANGEN CYMORTH? CYSYLLTWCH Â TIR DEWI AR 0800 121 4722