Hafan Ar gyfer clerigwyr ac aelodau Etholiadau yr Esgobaeth

Etholiadau yr Esgobaeth

Gofynnir i Ardaloedd Weinidogaeth Leol gyflwyno enwebiadau ar gyfer safleoedd etholedig ar fyrddau a phwyllgorau rhanbarthol ac esgobaethol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at gynrychiolaeth ehangach ledled yr esgobaeth ac yn annog pobl newydd i gymryd rhan ym mywyd ein heglwys. Cynhelir nifer o etholiadau elenni. Ceir wybodaeth isod.

Gofynnir i chi ddilyn y canllawiau ar y Ffurflenni Enwebu yn ofalus. Dychwelwch y Ffurflenni Enwebu a’r Ffurflenni Derbyn Ymgeiswyr drwy e-bost at: elections.stdavids@churchinwales.org.uk erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 6 Chwefror 2026.

Os na fedrwch ddychwelyd y ffurflenni drwy e-bost gallwch eu dychwelyd drwy’r post erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 6 Chwefror 2026.:

Cyd-Ysgrifenyddion, Swyddfa’r Esgobaeth, Abergwili, Caerfyrddin SA31 2JG

DIM OND AELODAU’R GYNHADLEDD ESGOBAETHOL SY’N MEDRU ENWEBU AC EILIO’R ENWEBEDIG.

MI FYDD Y SWYDDFA’N CYSYLLTU Â PHOB ENWEBWR AC EILIWR I GADARNHAU ENWEBIADAU.

Dosbarthir papurau pleidleisio yn unol â hynny.

COLEG ETHOLWYR ESGOBOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU

Pwrpas y Coleg Etholwyr Esgobol yw ethol Esgobion ac Archesgob yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r Coleg yn gweithredu mewn cytundeb â Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru. Mae angen arnom unigolion i lenwi’r gwagleoedd presennol ac i greu rhestr atodol.

Mi fydd y bobl sydd wedi’u henwebu yn llenwi gwagleoedd ar restr yr Etholwyr ac yn creu rhestr atodol o etholwyr. Bydd etholwyr yn cael eu galw yn nhrefn nifer y pleidleisiau y maent yn derbyn. Mae gofyn i chi nodi bydd yr Etholwyr sydd yn gwasanaethu ar hyn o bryd yn cael eu galw’n gyntaf yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestrau.

Os oes angen ethol Esgob mewn Esgobaeth arall neu Archesgob, mi fydd y tri enw cyntaf (o’r rhestrau clerigwyr a lleygwyr) yn cael eu galw fel Etholwyr. Mae hyn yn meddwl bydd cyfanswm o chwech Etholwr yn cael eu galw. Os oes gwagle yn ein Hesgobaeth ni, yna bydd y chwech enw cyntaf (o’r rhestrau clerigwyr a lleygwyr) yn cael eu galw fel Etholwyr. Mae hyn yn meddwl bydd cyfanswm o ddeuddeg Etholwr yn cael eu galw. Bydd diffyg ethol Etholwyr a rhestr atodol efallai yn meddwl na fydd gan ein Hesgobaeth y cwota llawn o Etholwyr mewn Coleg Etholwyr Esgobol.

Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach wrth ddilyn y linc gwybodaeth isod ac wrth ddarllen y Ffurflenni Enwebu.

Swyddi Gweigion - Clerigwyr

1 o unrhyw Archddiaconiaeth

Swyddi Gweigion - Lleyg

2 o unrhyw Archddiaconiaeth

Rhestr Atodol: Oes