Hanes Esgobaeth Tyddewi
Mae gan Esgobaeth Tyddewi hanes hir ac amrywiol. Seintiau Celtaidd a Thywysogion Cymreig, esgobion canoloesol a deddfwyr Fictoraidd, ysgolheigion y Diwygiad a diwinyddion Piwritanaidd, mynachod asgetig a ffeiradon Georgaidd - maent oll wedi gadael eu marc ar ei dirwedd ysbrydol gwahanol.
Mae enwau'r 300+ eglwys a nifer o ffynhonnau sanctaidd yn coffáu Dewi a'i gyfoedion megis Teilo, Meugan, Brynach, Illtud a Padarn, fu'n cario ffagl Cristnogaeth drwy'r Ymerodraeth Rufeinig ac i'r Oesoedd Tywyll.
Ni fu'r Llychlynwyr na'r Normaniaid yn llwyddiannus wrth geisio diffodd eu ffydd na dinistrio'r prif eglwysi a'r meudwydai. Byw wnaeth traddodiadau ysgolheictod ac asgetigiaeth, y sgil o gerfio cerrig a chreu llawysgrifau.
Serch hynny, bu dylanwad y Normaniaid ar yr esgobaeth hyd at 1923, pan ffurfiwyd Esgobaeth Abertawe a Brycheiniog ar yr ochr ddwyreiniol.
Tyddewi yw esgobaeth fwyaf Cymru yn dal i fod, ond ar un adeg 'roedd yn ymestyn mewn i siroedd Gwent a Phowys, a thros y ffin i Swydd Henffordd.
Y Normaniaid oedd yn gyfrifol am greu'r system blwyfol hefyd.
Yn ystod y cyfnod rhwng y 12fed a'r 16eg ganrif yr adeiladwyd nifer o'n heglwysi plwyf ar safleoedd mwy hynafol, gyda nifer hefyd yn cael eu hymestyn neu eu gwella. Roedd yr eglwys ganoloesol yn gweinyddu'r gymuned gyfan drwy ei sacramentau.
Roedd gan bererindota rôl amlwg ym mywyd yr eglwys hefyd, yn lleol ac yn genedlaethol, a hynny mewn mannau cydnabyddedig fel Cadeirlan Tyddewi, ac mae'n parhau i fod felly heddiw.
Cafwyd addasiad i'r litwrgiau canoloesol dan ddylanwad Diwygiad yr 16eg ganrif, i ddangos goruchafiaeth Gair Duw.
Roedd Yr Esgob Richard Davies, Thomas Huet ac Yr Esgob William Morgan, yn allweddol yn y gwaith o gyfieithu'r Ysgrythur Sanctaidd i'r Gymraeg, ac roeddent i gyd yn gysylltiedig ag esgobaeth Tyddewi ar y pryd.