Hafan Amdanom ni Y Gynhadledd Esgobaethol Adeg Cwestiyniau

Adeg Cwestiyniau

  • Pa weledigaeth sydd gan yr Esgobaeth, beth yw’r strategaeth tymor-byr o ran cyrraedd y nod, a sut y gellir sicrhau derbyniad cyffredinol i’r cyfan?

Parch Gaynor Jones - Higgs

I’w ateb gan Archddiacon Tyddewi

Mae’r Weledigaeth Esgobaethol yn union debyg i’r hyn a fu yn ystod Esgobawd Esgob Wyn ac Esgob Joanna hithau – Meithrin Gobaith. Mae hyn yn seiliedig ar 4 ‘A’: Ail- strwythuro’r Esgobaeth, Ail-ddychmygu Gweinidogaeth, Adfywhau’r Eglwysi ac Adnewyddu’r Bobl. O ganlyniad i hyn, gwelwyd creu sawl GDG(Ll), nifer o AddGLl a’r Bedwaredd Archddiaconiaeth. Gofalodd yr Esgob fod y Gynhadledd Esgobaethol yn amlycach rhan o’r trafodaethau, gan geisio gan y corff hwnnw awgrymu tair blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol union – sef Gweinidogaeth o ran Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, a’r ddwy flaenoriaeth ychwanegol y pleidleisiwyd yn eu cylch yn ddiweddar.

Er i ni obeithio gweld pawb yn cofleidio’r pynciau uchod, ni ellir “sicrhau” fod hyn yn digwydd; fodd bynnag, fe ddaliwn ati i ymdrafod gyda chynghorau AddGLl, a Chlerigiaid, i ddefnyddio Pobl Dewi a’n Gwefan Esgobaethol, yn ogystal â digwyddiadau penodedig, cyfleoedd hyfforddi ac achlysuron teithiol i hybu ac annog pawb i gymryd y mater o ddifrif.

  • Teimlaf nad oes gan yr Esgobaeth, na’r Eglwys yng Nghymru chwaith, weledigaeth sicr o rôl Gweinidogaeth Darllenydd. Er pan ddiddymwyd y drwydded i weinyddu Cymun drwy Estyniad, ni all Darllenydd wneud ond ychydig iawn na ellid ei wneud yr un mor effeithiol gan Arweinydd Addoliad. A wnaiff yr Esgobaeth felly, gyflwyno datganiad eglur o’r hyn ddylai rôl Darllenwyr fod?

Andrew Padfield (Darllenydd, Bro Caerfyrddin)

I’w ateb gan y Parch Ganon Ddr Rhiannon Johnson, Cyfarwyddydd Gweinidogaeth.

Diolch am eich cwestiwn.

Yr ateb yw fod diffiniad yr Esgobaeth o Ddarllenydd yn dal yn ddigyfnewid. Lleygwyr yn meddu ar drwydded Esgob i bregethu yw Darllenwyr. Hyn yw’r gwahaniaeth rhyngddynt hwy ac arweinwyr addoliad, sydd heb drwydded i bregethu.

Mae pob diffiniad gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru yn rhan o ddogfen o’r enw ‘Church Serving God’s Word’. Mae fersiwn arlinell o’r daflen hon yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd, a dylai fod ar gael yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Daw i ran Darllenwyr gweithgar ein Hesgobaeth i ymgymryd â dyletswyddau eraill yn eu hardaloedd cenhadu, megis gweinidogaeth ffocal, arwain grwpiau bychain, a chryn dipyn o waith cenhadu ac efengylu ymarferol. Doedd dim angen trwydded Darllenydd ar gyfer y tasgiau hynny, ond parodrwydd yn unig i ddarlunio bywyd Cristionogol mewn diwyg person lleyg. Daw’r tasgiau eraill yma i fod, yn rhinwedd bywyd eu plwyfi a’u hardaloedd cenhadu.

Rwy’n deall pa mor boenus fu’r penderfyniad i atal Cymun drwy Estyniad rhag bod yn rhan arferol o fywyd eglwys. Mewn ambell achos, lle roedd Darllenydd yn gweinyddu Cymun drwy Estyniad, ac a synhwyrodd fod yna fwlch, ar ôl ei golli, bu’n ysgogiad i bwyso a mesur posibilrwydd gweinidogaeth ordeiniedig, yn arbennig GDG(Ll). Tybed a fyddai hyn yn rhywbeth i chi ei ystyried?

  • Yn y Calendr Ymbiliau, pa bryd bynnag y crybwyllir AWL arbennig, y clerigiaid yn unig a enwir fel rheol. A fyddai’n bosib cynnwys enwau Darllenwyr yr AWL? Ar hyn o bryd, mae’r Calendr yn cyfeirio’n fras at y sawl sy’n dal swydd mewn eglwys, ac y mae hynny’n dra chyffredinol. Rwy’n derbyn yr offrymir gweddïau dros Ddarllenwyr yn benodedig ar Ddydd y Darllenwyr, ond byddai gair mwy rheolaidd yn y Calendr Ymbiliau yn tystio i ymwybyddiaeth lwyrach o rôl Darllenwyr.

Andrew Padfield (Darllenydd, Bro Caerfyrddin)

I’w ateb gan David Hammond-Williams, Cadeirydd y Tîm Cyfathrebu

O fod wedi derbyn rhybudd am y cwestiwn hwn ymlaen llaw, mynegwyd parodrwydd gan Olygydd y Calendr Ymbiliau i gydsynio â’r awgrym hwn. Yn wir, fe’i gweithredwyd eisoes, gan ddechrau gyda’r mis hwn.

Bwriadwyd i’r Calendr fod mor hyblyg – a chynhwysol – â phosib, a mae’r Golygydd yn fythol barod i dderbyn ceisiadau gweddi gan unrhyw un yn yr Esgobaeth. Derbynnir pob awgrym am welliannau, â chroeso.

  • Cwestiwn i Gynhadledd Esgobaethol Tyddewi (Dydd Sadwrn 2 Hydref 2021) gan Bwyllgor Gweithredol a Sefydlog CAWL Bro Caerfyrddin ar ran y CAWL

Mae AddGLl ar hyn o bryd yn gorfod ymgodymu ag ystod o dasgiau gweinyddol a chyfreithiol hanfodol, megis cofrestru fel elusennau a sefydlu trefn yswiriant, ond dwy engraifft yn unig yw’r rhain, a nid yw’r cwestiwn yn ymwneud yn benodedig â hwy. Yn hytrach, mae’n destun pryder i ni bod pob AWL, mae’n ymddangos, yn gorfod trefnu a datrys y cyfryw broblemau ar eu pen eu hunain. Mae’n golygu fod pob AWL cystal â bod yn dyblygu gwaith, a hynny’n ddianghenrhaid, wrth fwrw ymlaen – dull hynod aneffeithlon o weithredu. Gymaint mwy effeithlon y drefn petai’r Esgobaeth neu’r Dalaith yn hybu’r gorchwylion hyn yn uniongyrchol, yn hytrach nag adweithio iddynt.

Y Cwestiwn:

A fyddai modd i ni ofyn a allai’r Esgobaeth ymdrin â’r materion hyn yn uniongyrchol? Cymerer, er enghraifft, y dasg o gofrestru yn elusen – oni allai’r Esgobaeth ddarparu pecyn cofresrtu elusennol ar gyfer pob AWL, lle nad oes raid i’r AWL, mewn gwirionedd, ond arwyddo yn y man priodol, a bwrw bod gofynion pob AWL yn union debyg, i bob pwrpas?

Parch Ganon Ddr Matthew Hill

I’w ateb gan Archddiacon Tyddewi

Mae’r Esgobaeth bob amser yn baod i ymgysylltu ag AddGLl, o ran darparu cymorth a hwyluso’u gwaith, a hynny yn wyneb cyfyngiadau o ran cyllid ac adnoddau. Mae trefniadau ar waith ar hyn o bryd yn y Dalaith i ganiatáu AddGLl i ddatblygu’n Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO yn Saesneg) gyda phatrwm o gyfansoddiad a fyddai’n dderbyniol gan y Comisiwn Elusennau. Dyma’r hoff ddewis, ar hyn o bryd, ar gyfer AddGLl yr Esgobaeth hon. Wedi i’r gwaith hwn dderbyn cymeradwyaeth gan y Corff Llywodraethol, bydd modd i ni gynnig cymorth mwy uniongyrchol i’r AddGLl gofrestru.

Byddwn yn falch derbyn awgrymiadau cadarnhaol a cheisiadau am gymorth, a byddwn, drwy’r Archddiaconiaid, Swyddfa’r Esgobaeth, Swyddog Datblygu’r AddGLl, a Swyddog Stiwardiath a Chefnogaeth yr AddGLl, yn ymgysylltu ag AddGLl pan fo materion o bwys cyffredin rhyngom.

  • (a) Beth sy’n digwydd o ran yr Esgob?
  • (b) A yw’r Gynhadledd yn sylweddoli’r gwahaniaethau sylweddol sy’n bodoli rhwng eglwysi Cefn-gwlad ac eglwysi Tref?
  • (c) Pa ffynonellau ariannol sy’n cynnal yr Eglwys yng Nghymru, ac a yw’r Fantolen yn cael ei chyhoeddi?
  • (d) A all eglwys ymddatgysylltu oddiwrth AWL a bod yn annibynnol, o fedru fforddio bod felly?
  • (e) A fyddai modd gwneud sefyllfa hierarchaidd, cyfreithiol a chyfansoddiadol yr Eglwys yng Nghymru yn fwy eglur, o ran aelodau cyffredin.

Steve Watkins – Gweinidog Ffocal St. Brynach, Nanhyfer (ar ran Cyngor yr Eglwys)

I’w hateb gan Archddiacon Tyddewi

a) Fel y nodwyd gan Esgob Bangor, mae Esgob Joanna wedi ymneilltuo ar hyn o bryd oherwydd salwch. Nid fy lle i yw dweud rhagor.

b) Mae pawb ohonom, mi gredaf, yn sylweddoli’r gwahaniaeth, ac felly y bu ers canrifoedd. Bu hyn yn destun trafod gan Bwyllgor Sefydlog yr Esgobaeth, a bu gweithredu perthnasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf; yn sicr, mae yna ymwybyddiaeth gyson o’r tyndra rhwng y ddwy agwedd.

c) Daw cyllid yr Eglwys yng Nghymru drwy waddoliadau hanesyddol, buddsoddiadau ac incwm. Felly hefyd Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth, ond yn bennaf drwy dderbyn y Gyfran Weinidogaethol. A hwythau’n gwmniau elusennol cofrestredig, cyhoeddir eu cyfrifon yn gyflawn, ar ôl eu harchwilio, a gellir gwneud cais amdanynt, y naill gorff a’r llall, neu maent ar wefannau’r Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau.

d) Na. Polisi’r Esgobaeth yw fod yr holl eglwysi i’w cynnwys mewn AddGLl. Mae’r polisi hwn yn datblygu’n gyffredinol ledled y Dalaith.

e) Ceir gwybodaeth am Strwythur yr Eglwys yng Nghymru ar y Wefan Daleithiol a thrwy ymgynghori â Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru arlinell. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn Dalaith sy’n annibynnol o’r Cymundeb Anglicanaidd, wedi ei chreu drwy Ddeddf Seneddol ym 1914, deddf a weithredwyd ym 1920 er datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru oddiwrth Eglwys Loegr. Mae ein Strwythurau Esgobaethol ein hunain hefyd ar y Wefan Esgobaethol, a maent yn cael eu haddasu ar hyn o bryd, yn unol â newidiadau perthnasol.

  • Cyflwynwyd y cwestiwn canlynol, ond fe’i collwyd rywfodd, felly cwbl deg yw ei gynnwys yn awr.

Yn wyneb methiant ar ran y Colegau Ethol Esgobol i benodi i Esgobaethau gwag yn ddiweddar (Llandaf, hefyd Abertawe & Aberhonddu), a fydd ail-ystyried dwys, bellach, yn digwydd o ran diwygio’r modd y penodir ein Hesgobion?

Parch Ganon Andrew Loat (AWL Bro Padarn)

I’w ateb gan Archddiacon Tyddewi

Mae’r Corff Llywodraethol a’i Bwyllgor Sefydlog ar hyn o bryd yn ystyried cynlluniau newydd ar gyfer diwygio a newid dull y Coleg Ethol o weithredu. Eisoes, bu dadl a thrafodaeth ar y pwnc yn y Corff Llywodraethol, er nad oedd rhai o’r awgrymiadau’n dderbyniol; ond gofynnwyd i’r grŵp-trafod ystyried sylwadau’r Corff Llywodraethol wrth wyntyllu’r mater. Rhagwelir y bydd yna Goleg Ethol o hyd, ond bwriedir y bydd i ymgeiswyr a enwebir, fwy o ran yn y broses, ac y bydd modd i’r Coleg, mewn gwirionedd, eu cyfweld. Y gobaith yw cyflwyno cynlluniau diwygiedig manwl i’r Corff Llywodraethol yn ystod 2022.