Y Gynhadledd Esgobaethol 2024
Teulu Dewi
Cynhaliwyd Cynhadledd 2024 ddydd Sadwrn 5 Hydref yng Nghanolfan Halliwell, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP.
Papurau'r gynhadledd:
Agenda ac adroddiadau [PDF]
- Cynnig Ychwanegol (Materion Cyfansoddiadol)
Cynnig i Ddileu Cyfeiriadau at y 4edd Archddiaconiaeth
Mae'r Gynhadledd hon yn nodi:
- Bod y 4edd Archddiaconiaeth wedi peidio â bodoli
- Bellach, bod yr Archddiacon Cymunedau Cristnogol Newydd yn cael ei alw’n Archddiacon Cenhadol
- Ei bod yn bwysig bod Cyfansoddiad yr Esgobaeth yn adlewyrchu strwythurau cyfredol yr Esgobaeth.
Mae'r Gynhadledd hon wedi penderfynu:
- Diwygio Cyfansoddiad yr Esgobaeth fel ag y mae i gael gwared ar bob cyfeiriad at y 4edd Archddiaconiaeth – gan gynnwys mewn meysydd cynrychiolaeth.
- Bod unrhyw gyfeiriad at yr Archddiacon Cymunedau Cristnogol Newydd yn cael ei ddisodli i gyfeirio at yr Archddiacon Cenhadol.
- Cyfarwyddo’r Cyd-ysgrifenyddion i ddiwygio Cyfansoddiad Cynhadledd yr Esgobaeth i’r perwyl hwnnw.
Cynigydd: Yr Arglwydd Esgob
Eilydd: Yr Archddiacon Cenhadol
Wedi'i dderbyn yn unfrydol
- Cynnig Brys
Er bod Esgobaeth Tyddewi yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae'n ei derbyn gan Gorff y Cynrychiolwyr [yr Eglwys yng Nghymru] ac yng ngoleuni cryfder eu sefyllfa ariannol, fel y gwelir yn eu cyfrifon yn 2023, a'r pwysau ariannol cynyddol ar Ardaloedd Gweinidogaeth ac eglwysi, mae Esgobaeth Tyddewi yn gofyn i Gorff y Cynrychiolwyr fynd ati i gynyddu ei gefnogaeth ariannol i'r weinidogaeth rheng flaen ym mhob esgobaeth yn y Dalaith.
Mae Cynhadledd yr Esgobaeth yn cyfarwyddo Pwyllgor Sefydlog yr Esgobaeth i baratoi cynnig wedi'i eirio'n addas i'w gyflwyno i'r Corff Llywodraethol.
Cynigydd: Yr Hybarch Mones Farah
Eilydd: Y Parchedig Matthew Webster
Wedi'i dderbyn gyda 5 yn Atal Pleidlais