Cadeirlan Tyddewi
Cadeirlan Tyddewi
Dyma fam-eglwys esgobaeth Tyddewi, - adeilad eiconig a saif i'n hatgoffa o dreftadaeth Gristnogol Cymru gyfan. Mae'r gadeirlan yn gartref i gymuned o ffydd sy'n cynnal addoli dyddiol, yn croesawu ymwelwyr a phererinion ac sy'n cynnig gweinidogaeth fugeiliol o groeso, gofal, iachau ac ail-greu.
Mae'r adeilad hynafol, sydd wedi'i ddiwygio ar sawl achlysur dros gyfnod o 1500 mlynedd, yn tystio i fodolaeth Duw mewn byd cyfnewidiol ac i ymdrechion Cristnogion drwy'r oesoedd, yn y man hwn, i ddarganfod ffyrdd symbolaidd o nodi eu profiad o Dduw yn eu hoes nhw.
Dyhead y gadeirlan yw i dystio i'r Efengyl, ac i'r perwyl hwn mae'n ceisio bod yn le o ragoriaeth, arloesi a herio, wrth ymdrin â thŵf ysbrydol, efengyliaeth a mynegiant litwrgaidd.
Drwy'r celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yn arbennig, mae'n le sy'n dathlu creadigrwydd dynol ac mae'n cymell pobl i ddilyn trywydd galwedigaethol.
O'r oesoedd cynnar mae'r gadeirlan wedi bod yn ganolbwynt i bererinion, ac mae'r gwaith adnewyddu a wnaed ar y gysegrfan i Ddewi Sant ei hun yn tystio i hyn.
Heddiw, fel erioed, tŷ gweddi yw'r gadeirlan yn bennaf, man cysegredig sy'n cymell gonestrwydd a thwf personol, a hynny ym mhresenoldeb Duw.
Yn ogystal â hyn, mae'n le ar gyfer dysgu ac addysgu am dreftadaeth Cristnogaeth, a'i bwysigrwydd mewn cymdeithas heddiw. Mae'n cynnig lle a llonyddwch o brysurdeb a straen bywyd, fel y gall pobl weld eu bywydau o safbwynt newydd.
Croesawir ymwelwyr anabl i Gadeirlan Tyddewi. Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio yn y Gadeirlan, a hynny yng nghyntedd y de. Lleolir toiled i ymwelwyr anabl yn y South Cloister. Mae system loop ar gael hefyd yng nghorff yr eglwys a'r Quire.
Am gyngor a gwybodaeth pellach mae croeso i chi gysylltu gyda: Judith Leigh ar 01437 720204
Canolfan Addysg a Phererindod Ty'r Pererin
Mae Canolfan Addysg a Phererindod Tŷ’r Pererin ar agor i ymwelwyr a phererinion, ac mae'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, sy'n cynnwys cyrsiau'n seiliedig ar y cwricwlwm i ysgolion.
- Mwy o wybodaeth am Ty'r Pererin
Llyfrgell y Gadeirlan
Cadeirlan Tyddewi yw'r unig gadeirlan yng Nghymru sydd â llyfrgell o fewn ei muriau.
Mae'r casgliadau yn cynnwys oddeutu 7,000 o lyfrau sy'n dyddio o adeg y Diwygiad, ac mae hefyd yn cynnwys archif ffotograffiaeth enfawr.
Erw Dewi
Gardd Gymunedol newydd, ger y Gadeirlan, yw Erw Dewi. Prosiect ar y cyd rhwng y Gadeirlan ac Eco Dewi yw'r ardd, a'r gobaith yw y bydd yr amgylchedd naturiol, yn ogystal â'r gymuned leol, yn elwa ohono.
Gŵyl Gerddoriaeth Cadeirlan Tyddewi
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Ŵyl https://stdavidscathedralfestival.co.uk/
Lawrlwythwch Ap y Gadeirlan
Erbyn hyn mae posib i ymwelwyr a phererinion brofi naws a thrysorau Cadeirlan Tyddewi mewn ffordd hollol newydd.
Mae Ap newydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim i iPhone, iPad neu iPod. Yn addas ar gyfer pob oedran, mae'n cynnig llinell amser o hanes y gadeirlan dros y 1500 mlynedd diwethaf, a gwybodaeth am holl ardaloedd yr adeilad gyda chynlluniau manwl a chyfeiriadau at dudalennau'n llawn gwybodaeth a delweddau o ansawdd uchel. Gall hefyd ddangos y tri man o ddiddordeb sydd agosaf atoch yn ardal allanol y gadeirlan, gan ddiweddaru rhain wrth i chi symud o gwmpas.
Nodyn Technegol: Mae ap y gadeirlan wedi'i greu ar gyfer iPhone 5. Mae angen iOS 7.0 neu hwyrach. Crewyd gan WebAdept ar gyfer Cadeirlan Tyddewi.