Esgob Tyddewi
Y Gwir Barchedig Dorrien Davies yw 130ain Esgob Tyddewi. Cafodd ei ethol yn Esgob ym mis Tachwedd 2023, cysegrwyd ef ym mis Ionawr 2024 a'i orseddu ym mis Chwefror.
Fe'i ganed yn 1964 yn Abergwili, ger Caerfyrddin, graddiodd o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ei ordeinio’n ddiacon yn 1988 ac yn offeiriad yn 1989.
Gwasanaethodd fel curad yn Llanelli ac yna bu'n Ficer yn Ystrad Aeron a Llandudoch. Yn 2007, fe'i gwnaed yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn 2010 daeth yn Ganon Preswyl. Yn 2017, cafodd ei benodi'n Archddiacon Caerfyrddin, swydd a gyflawnodd hyd ei ethol yn Esgob.
Mae’r Esgob Dorrien yn Gymro Cymraeg. Mae’n briod â Rosie ac mae ganddynt ddau fab, Morgan a Lewis. Ar hyn o bryd mae Morgan yn gwasanaethu fel Gofalwr i’r Canon yn yr Eglwys Gadeiriol.