Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Waldo Williams

Waldo Williams

Barddoniaeth y Preseli

Waldo Williams [Peoples Collection]

Magwyd Waldo Williams (1904-1971), un o feirdd mwyaf Cymru yn yr 20fed ganrif, yng nghysgod y Preseli, a’r bryniau hyn yw testun un o’i gerddi mwyaf adnabyddus.

Yn heddychwr gydol ei oes, cyfansoddodd Preseli ym 1946 fel protest yn erbyn cynlluniau i droi’r ardal yn faes hyfforddi milwrol parhaol.

Yn yr erthygl deiran hon, mae Hume Gravell yn sôn am y tri chopa mae’r bardd yn cyfeirio atyn nhw fel “mur fy mebyd”

Darllenwch y gerdd yn llawn

Foel Drigarn [Waldo Williams 1]
Foel Drigarn

Dyma’r copa mwyaf adnabyddus o’r tri. Mae e i’w weld o Grymych, a’r ffordd i ddod ato yw dilyn yr heol gefn o Grymych I Fynachlog Ddu. Cyn hir byddwch yn dod at gilfan a digon o le i barcio, ac mae’r Foel ar yr ochr dde. Nawr mae’n bryd cerdded. Dilynwch feidr gul nes cyrraedd iet(gât) yn arwain i’r mynydd agored. O fan hyn mae sawl llwybr yn igam-ogamu i’r copa, ddim yn rhy serth.

O’r copa, mae na dri o bethau i’w hedmygu. Yn gyntaf, yr olygfa- Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a mwy, mae’n dibynnu ar y tywydd. Yn ail, y tair carn enfawr o gerrig o’r Oes Efydd. Yn drydydd, tair cylch o ragfuriau. Yn yr Oes Haearn, datblygodd Foel Drigarn yn fryngaer pwysig. Yn ol yr archeolegwyr, mae dros ddau gant o gytiau wedi eu cloddio mewn i ochrau’r bryngaer, er ei bod nawr ynghudd yn y grug. Roedd y datblygiadau hyn wedi digwydd dros rhai canrifoedd.

Pan oedd Waldo yn athro yn Lloegr, fe welodd sgerbwd merch(?) ifanc yn amgueddfa Avebury. A oedd llun o Foel Drigarn yn ei feddwl pan gyfansoddodd ‘Geneth Ifanc’?

‘Bob tro o’r newydd mae hi’n fy nal.’

‘Rhoesant hi’n gynnar yn ei chcwrcwd oesol.’

Carn Gyfrwy
Carn Gyfrwy

Un ffordd i ddod I’r bryn bach hirgul yma yw o Grymych i Groes Fihangel, parcio wrth ochr yr heol, a dilyn y lôn sy’n arwain i’r mynydd agored. Mae llwybr amlwg yn arwain i’r de-orllewin, y ‘Llwybr Aur’ hanesyddol sy’n mynd ar hyd y Preseli. O fewn milltir, mae Carn Gyfrwy o’ch blaen. Mae’r bryn yn terfynu mewn craig sylweddol, a tu ol i’r graig mae’r cyfrwy, enw sy’n ffitio’r nodwedd yma i’r dim. Os oes plant gyda chi (neu oedolion dan hanner cant) fe fyddan nhw’n mwynhau mynd lan a lawr trwy’r cyfrwy.

Nodwedd fechan o dirlun y Preseli yw Carn Gyfrwy. Ar unwaith bydd sylw’r cerddwr yn cael ei ddenu gan y carnau a’r meysydd clogfeini sy’n gwneud Carn Meini.

Dyma gyfle i ofyn pam dewisodd Waldo y tri bryn yma yn ei gân? Does dim cynghanedd yn yr enwau, mae’r tri nodwedd yn gwanhaniaethu’n fawr o ran uchder, amlygrwydd, maint ac enwogrwydd; Foel Drygarn yn bwysig fel safle archeolegol, Carn Alw yn rywbeth bach sy’n denu’r llygad am eiliad, Tal Mynydd heb lawer i ddenu’r cerddwr. Ni ellir gweld y tri man yma gyda ‘i gilydd o Mynachlogddu, nac o Glunderwen, lleoedd ble bu Waldo’n byw. Gellir gweld y ddau fan o’r trydydd, ac felly mae’n bosibl bod y tri lle yma wedi dal sylw Waldo pan oedd yn cerdded y rhan yma o’r Preseli. Syniadau eraill?

Tal Mynydd
Tai Mynydd

Mae’r bryn yma yn amlwg, yn edrych dros Mynachlog Ddu . Ym mhentre Mynachlog Ddu, cymerwch yr heol fach gul sy’n arwain i gyfeiriad y mynyddoedd. Ar y ffordd, mae Rhosfach, rhostir lle codwyd carreg fawr er cof am Waldo. Wedi croesi’r grid gwartheg hanner milltir ymlaen, rydych ar y mynydd agored. Mae digon o le I barcio, a dyma Tal Mynydd o’ch blaen. Mae’r llwybr yn glir ond yn serth. I’r rhai sydd wedi croesi oedran yr addewid, falle bydd y daith yn anodd – cymerwch gamau bychain, cadwch eich pen lawr, ac oedwch nawr ac yn y man. Mae’r mynydd nawr nid ‘wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn’ ond yn eich gwyneb. Edmygwch yr olygfa ar ol cyrraedd y brîg.

Beth sydd yma? Mae’r olygfa yn eang – de Sir Benfro, dwyrain Sir Gaerfyrddin, Gwyr, a hyd yn oed Dyfnaint ac Ynys Lundy. Yna, Foel Cwm Cerwyn, nid dim ond y copa, ond peiran Cwm Cerwyn, a gerfiwyd allan o’r tir gan iâ ryw ugain mil o flynyddoedd yn ôl, pan oedd yr eira yn parhau o flwyddyn i flwyddyn. Cywasgwyd yr eira i iâ a oedd yn araf lifo, i ffurfio rhewlif (glacier). Fe welwch yr un peth yng Nghwm Idwal (Eryri), a Chwm Cau (Cader Idris).

Ar ol sylwi ar y pethau hyn, mae Tal Mynydd i’w weld braidd yn wastadd ac yn undonog. Does dim llawer o garnau a chlogfeini i ddal sylw. Ond mae’n werth dilyn llwybr annelwig i’r gogledd orllewin. Mewn milltir fe ddewch at ddarn bach o dir (cylch o 8 medr) a dim byd yn tyfu arno. Fan hyn, daeth awyren ‘Liberator’ o’r Awyrlu lawr ym 1944. Lladdwyd tri o’r criw yn y tân, anafwyd pedwar. Gosodwyd plac haearn yma i gofnodi’r ddamwain. Yn wir, i’r dynion ifainc yma, roedd Tal Mynydd yn eu gwynebau, nid wrth eu cefnau - gyda chanlyniadau trychinebus.