Syr Rhys ap Thomas
Mae Richard Davies yn siartio bywyd ac amseroedd gwneuthurwr brenhinoedd o Gymru
Roedd y bymthegfed ganrif yn un cythryblus yn hanes Cymru a Lloegr oherwydd roedd dwy adain y Teulu Brenhinol yn ceisio trechu eu cefndryd er mwyn cael bod yn Frenin Lloegr – cyfnod sy’n mynd yn ôl yr enw Rhyfel y Rhosynnau. Cofir un enw yn benodol am ei rôl allweddol i helpu dau ddyn ddod yn frenin yn eu tro, sef Edward IV ac ailsefydlu Harri VI, a’r person hynny oedd Richard Neville, Iarll Warwick ac fe’i adnabyddir yn nhudalennau hanes fel Warwick the Kingmaker.
Ond, a oedd gan Gymru Kingmaker eu hunain yn y cyfnod? Yn ôl rhai, oedd, a’r person hynny oedd Syr Rhys ap Thomas a chwaraeodd ran allweddol ym muddigoliaeth Harri Tudur dros Richard III ym Mrwydr Bosworth ac eleni rydym yn cofio pum can mlwyddiant marwolaeth Rhys.
Beth a wyddom amdano? O dras bonedd o Sir Gaerfyrddin, roedd ei achau yn ymestyn nôl i Ednyfed Fychan a Thywysogion Dinefwr. Er fod y teulu wedi bod yn ochri efo’r Lancastriaid, gan nad oedd Rhys wedi cefnogi Gwrthryfel Buckingham, gwobrwywyd Rhys gan Richard III, ond credir iddo gadw mewn cysylltiad efo’r Fonesig Margaret Beaufort, mam Harri Tudur a gelyn Richard III.

Yn ôl y traddodiad, addawodd Rhys i Richard y buasai Harri Tudur ond yn pasio trwy dde-orllewin Cymru ‘dros ei fola.’. Felly, pan glaniodd Harri yn Dale yn 1485, er mwyn cadw ei addewid, gorfodwyd Rhys i orwedd o dan Pont Mullock, tra roedd Harri yn gorymdeithio drosti! Chwedl? Pwy a ŵyr?
Gwyddom fod Rhys wedi gorymdeithio trwy ganolbarth Chymru a chasglu rhyw 500 o filwyr tuag at fyddin Harri, gan ymuno ag ef yn ardal Y Trallwng. Ym Mrwydr Bosworth, ai Syr Rhys a laddodd Richard III? Mae’r bardd Guto’r Glyn yn awgrymu taw efallai ef oedd yn gyfrifol, fel y dywed: ‘Lladd y blaedd, eilliodd ei ben’.
Gwobrwywyd Rhys yn hael gan Harri VII. Marchogwyd ef yn syth a phan greuwyd Rhys yn Farchog y Gardas, fe gynhaliodd Rhys dwrnament anferth yng Nghastell Caeriw – yr un olaf, yn nhyb rhai, o’i math ym Mhrydain.
Pan bu farw Rhys yn 1525, claddwyd ef ym Mhriordy Caerfyrddin. Ond daeth ddyddiau’r Priordy i ben, claddwyd Rhys yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin, lle y gwelir ei fedd tan heddiw.