Llwybr Gobaith


Ar drothwy llwybr gobaith
Oeda an eiliad nawr
a gad dy boen a'th ofnau'l gyd
cyn dechrau troedio'l lawr
Mentra 'mlaen â'th lygiad cau
cyn eu hagor led y pan
a môr o liwiau'n pefrio
amat ti a mi o'rnen.
Mae harddwch lliwiau'r enfys
y fendith y bob un
a chariad nefol Duw ein Tad
yn fodd i gynnal dyn.
Wrth droedio llwybr gobaith
a'th galon fach ddi-lyth
rho'th law yn llaw yr Arglwydd
a fydd gerllaw am byth.
Wrth adael llwybr gobaith
dail a'n dynn wrth un lliw
i'th gynnal pan yn isel
gyda gras a chariad Duw.
A chofia ar dath daith bywyd
y llwybr o liwiau'n llawn
pob un yn fendith gwerthfawr
gan Dduw i ti yn ddawn.
Marian Thomas