Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Llwybr Gobaith

Llwybr Gobaith

DMU Tunnel of Hope 2

Dillad gwely a ffrogiau – lansio ymgyrch codi arian diweddaraf Undeb y Mamau

Gwaith Jane Rees, un o aelodau Undeb y Mamau, yw’r Llwybr Gobaith. Mae hi wedi treulio blynyddoedd lawer yn casglu stribedi o ddefnydd gan gyd-aelodau, cynulleidfaoedd eglwysig a chefnogwyr o bob rhan o’r esgobaeth, cyn eu clymu at ei gilydd ar ffrâm fetel.

“Mae’n lle i bobl ddod i weddïo am yr hyn maen nhw’n dymuno amdano,” meddai Jane. “Ac mae’n gyfle i bobl ddod i dynnu lluniau ohono ble bynnag mae’n mynd.”

Bydd y gwaith yn teithio o gwmpas gwahanol eglwysi a changhennau Undeb y Mamau, er mwyn codi arian ar gyfer un arall o brosiectau’r Undeb, Away From It All (AFIA), sy’n cael ei gydlynu gan Jane yma yn Nhyddewi.

“Mae’n ymwneud â helpu plant a theuluoedd sydd wedi profi adfyd yn eu bywydau,” meddai. “Eleni, er enghraifft, fe wnaethon ni lwyddo i drefnu diwrnod i’r teulu i 300 o blant yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

“Rwy’n falch iawn bod cymaint o bobl o wahanol ganghennau a sefydliadau wedi ein helpu i fwrw’r maen i’r wal. Ac mae’r gwaith yn parhau. Ymhen blwyddyn, pan fyddwn ni’n dathlu 150 mlwyddiant Undeb y Mamau, gobeithio y bydd wedi tyfu i ddwywaith ei faint heddiw.”