Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Capel y Babell sy'n adrodd stori

Capel y Babell sy'n adrodd stori

Hanes cadwraeth ac adfywiad gan John Holdsworth

Yng Ngweriniaeth Twri Gogledd Cyprus, na chydnabyddir yn rhyngwladol, nodir yr 20fed o Orffennaf gan orymdeithiau milwrol enfawr, ac fe’i cyflwynir fel dathliad o sut y rhyddhaodd grym Twrci yr ynys. Ond mae'r weriniaeth i'r de yn ei nodi mewn modd tipyn mwy prudd, gan gofio'r golled enfawr o fywydau a thir a ddigwyddodd yn wyneb yr ymgyrch filwrol a ddechreuodd ar y dyddiad hwnnw yn 1974.

Yno fe’i cofir fel ymgais manteisgar gan Dwrci, gan ddefnyddio esgus ansefydlogrwydd gwleidyddol a sifil a achoswyd gan coup mewnol ryw bum diwrnod ynghynt, i goncro'r ynys. Arweiniodd hyn at y gwahaniad sy'n bodoli hyd heddiw.

Chapel Tent 1 [Cyprus]

Chapel Tent 4 [original]

Eleni, er mwyn helpu mynychwyr yr eglwys i fyfyrio ar y digwyddiadau hyn, trefnodd y Tad George Vidiakin, offeiriad plwyf yn Ayia Napa, bererindod i gofeb nad oes llawer yn ymwybodol ohoni, ym mhentref Dasaki Achnas, ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Yn 1974, ffodd pentrefwyr ofnus o ardaloedd a oedd yn llwybr y goresgyniad Twrcaidd gyda’r hyn y gallen nhw ei gario gyda nhw. Daeth trigolion Achna, pentref ger Larnaca, o hyd i loches yn y goedwig ger y ganolfan filwrol Brydeinig yn Dhekelia. Ymgasglodd 60-80,000 yno, gan greu anheddiad Dasaki Achnas (Coedwig Achna)

Canolbwynt y pentref hwn, a ffocws y bererindod, yw capel ar ffurf pabell.

Chapel Tent 5

Chapel Tent 3

Ei brif neges yw atgoffa pobl o'r pebyll oedd yn gartref i’r rhai a ffodd o'u cartrefi. Ar safle'r 'capel' presennol, arferai offeiriad gynnal gwasanaethau mewn eglwys babell."

Mae'r ffigyrau wedi'u cerfio o fewn y Capel yn cynnwys nodwedd drawiadol yn y fynedfa sy'n darlunio criw o fenywod wedi'u torri’n hanner yn ôl pob golwg. Mae hyd yn oed eicon y mae un ohonynt yn ei gario wedi'i dorri’n ddau. Mae’n symbol o raniad yr Ynys.

Ffigwr emosiynol arall yw’r portread a geir o fenyw oedrannus a allai fod yn fyw neu'n farw. Mae trydydd cerflun yn darlunio mam a phlentyn.

Yn ôl y Tad George, mae’r babell "yn mynegi'r rhinweddau craidd sy'n nodweddu hunaniaeth Cyprus: lletygarwch, balchder cenedlaethol, cariad at famwlad, ac undod â chydwladwyr. Mae'r rhinweddau hyn yn gwbl amlwg ar adeg dyngedfennol pan mae'r wlad yn y bôn ar drothwy chwalfa."

Cafodd yr ymweliad effaith amlwg ar y pererinion. Dywedodd Margaret Charalambides, o Nicosia, mai'r bobl wedi’u portreadu fel rhai wedi'u torri yn eu hanner oedd y rhai mwyaf dirdynnol. "Roeddwn i'n teimlo bod un hanner yn dyheu am ddychwelyd adref, a hynny’n amhosib bellach, gyda’r hanner arall yn edrych ymlaen at ddyfodol ansicr – mae’n rhaid ei fod yn deimlad ofnadwy."

Mae'r erthygl hon yn fersiwn gryno o un a gyhoeddwyd gyntaf gan Gymdeithas Eglwysig Jerwsalem a'r Dwyrain Canol (JMECA). Lluniau trwy garedigrwydd y Tad George Vidiakin.