Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Caredigrwydd Dieithriaid

Caredigrwydd Dieithriaid

Sioned Cray – cystadleuydd yn y gyfres deledu ddiweddar ar y BBC, Race Across the World – ar garedigrwydd dieithriaid a’u cadwodd i fynd yn ystod her flinedig.

Sioned Cray 1 [Race Across the World]

Mewn byd sydd yn aml yn cael ei ddiffinio gan frys, straen a hunan-fudd, mae’n hawdd anwybyddu’r grym tawel ond pwerus sy’n dal y cyfan at ei gilydd: caredigrwydd.

Pan gychwynodd Fin a minnau ar RaceAcross the World, roedden ni’n disgwyl blinder corfforol, cyllidebau tynn, a llanast logistaidd, ond doedden ni ddim wedi rhagweld pa mor fawr fyddai ein dibyniaeth ar haelioni dieithriaid. Dro ar ôl tro, caredigrwydd oedd yr hyn a’n cadwodd ni i fynd.

O’r cam cyntaf o’r daith, cawsom ein synnu gan bobl nad oedd ganddyn nhw ddim i’w ennill drwy ein helpu, ond a ddewisodd gwneud hynny beth bynnag. Boed yn rhywun yn rhannu sedd mewn bws llawn, yn cynnig cyfarwyddiadau mewn iaith estron, neu’n talu am docynnau neu fwyd ar ein cyfer, roedd y fomentau hynny’n dod yn danwydd i’n taith. Nid oedd y rhain yn weithredoedd dramatig mawr; yn aml, dim ond gweithredoedd syml oeddent. Ond pan rydych yn flinedig, ar goll, ac yn filoedd o filltiroedd o gartref, mae bach o ddynoliaeth yn teimlo’n enfawr.

Un diwrnod, roedd ein ysbryd ni yn isel, panic y byddwn ni yn dod bant o’r bws a bydd dim opsiwn o drafnidiaeth i fynd yn bellach. Fe wnaethom ni ofyn i bobl ar y bws am opsiynnau a heb ail-feddwl fe wnaeth dyn, ei enw oedd Artie, wneud un galwad ffôn a dyna ni, roedd gennym ni dacsi.

Ond er fe wnaeth helpu ni yn barod, a doedd dim hanner gymaint o straen arnym ni rhagor, fe aeth ymlaen i rhannu ei ginio a goginiodd ei wraig oherwydd yr oedd yn gwybod nad oeddwn ni wedi bwyta y dydd hynny. Doeddwn ni ddim yn gallu siarad llawer o’r un iaith, ond doedd dim angen cyfieithiad ar y cynhesrwydd yn eu gweithredoedd. Roedd hynny’n ein hatgoffa pam roedden ni’n gwneud hyn, nid yn unig am y ras, ond am y profiad, y cysylltiadau, y straeon dynol sy’n gwneud teithio’n werthfawr.

Roedd y ras yn brawf o wydnwch, oedd, ond hefyd yn wers mewn gostyngeiddrwydd. Dysgon ni i ofyn am help, i ymddiried, ac i weld bod daioni ym mhob man, hyd yn oed mewn llefydd estron. Doedd caredigrwydd ddim ond yn gwneud y daith yn haws, roedd yn rhoi ystyr iddi. Roedd yn ein hatgoffa bod pobl yn debycach nag ydyn nhw’n wahanol.

Yn y cyfnodau anoddaf, pan oedd arian yn brin a’n hysbryd yn isel, dim y cynllunio nac ein strategaeth a’n tynnodd ni drwodd bob tro, ond tosturi rhywun arall. Doedd caredigrwydd dieithriaid ddim ond yn rhan o’n taith, roedd yn ganolbwynt iddi.

A falle dyna’r ras wirioneddol ar draws y byd, gweld pa mor bell all caredigrwydd fynd â ni. Ac yn wir, mae’n mynd ymhellach nag y buasem ni erioed wedi dychmygu.