Llawenydd Rhannu
![CYF Pilgrimage 1 [2025]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/CYF_Pilgrimage_1_2025.width-500.jpg)
Mae Gareth Reid wedi cwblhau’r daith i Dyddewi sawl gwaith. Ond roedd hon yn wahanol.
Roeddwn i’n ymuno â Phererindod Ieuenctid yr Esgobaeth. Wrth eistedd i lawr gyda fy nghyd-arweinwyr, daeth yn amlwg mai fi oedd yr unig arweinydd a oedd yno am y tro cyntaf, ac roedd ymdeimlad cryf o gymuned yn bodoli eisoes.
Ar ôl ‘sgwrs tîm’ gan y Parch. Sophie Whitmarsh, Cenhadwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Esgobaeth, symudodd pawb i’r ysguboriau cysgu a fyddai’n gartref i ni am y dyddiau nesaf. Yn raddol, cyrhaeddodd y pererinion, 25 i gyd, o bob rhan o’r Esgobaeth, a dechreuodd ein taith o ddifri.
O ddydd Llun i ddydd Gwener, profwyd holl hwyl a heriau a holl agweddau llon a lleddf pererindod. Bu’n fraint cael cerdded ar hyd llwybr yr arfordir (sawl gwaith), mwynhau taith o amgylch gorsaf y bad achub, sgwrs gan fforwm Arfordir Sir Benfro, cyd-addoli gyda’n gilydd yn yr ysgubor ac yn yr Eglwys Gadeiriol, rhannu barbeciw ar y traeth, cael ein bendithio gan yr Esgob wrth ffynnon y Santes Non ac, wrth gwrs, y gymdeithas a gafwyd.
Thema’r wythnos oedd 1 Timotheus 4:12 – “Paid gadael i neb dy ddibrisio am dy fod di’n ifanc. Bydd yn esiampl dda i’r credinwyr yn y ffordd rwyt ti’n siarad, a sut rwyt ti’n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a’th fywyd glân” – ac fe wnaeth yr adnod hon ddylanwadu ar ein haddoliad a’n myfyrdodau ar sut i fod yn Gristion yn ein byd, gyda’n ffrindiau, gyda’n teulu. Cynigiwyd y geiriau a’r myfyrdodau hyn i’r pererinion, ond derbyniwyd hwy gan y pererinion a’r arweinwyr yn yr un modd.
Ar wythnosau fel hyn, y pethau bychain sy’n aml yn sefyll allan ac yn rhoi hwb i’ch ysbryd. Un o’r uchafbwyntiau i fi oedd gweld pawb a fynychodd yn canu My Lighthouse o gwmpas y tân ar ôl diwrnod hir o gerdded; un arall oedd rhannu’r Cymun Bendigaid bob bore a phasio’r sacrament i’n gilydd, a bod yn dyst un diwrnod i’r Esgob yn ei dderbyn gan arweinydd ifanc.
Roedd y llawenydd o rannu’r amser gyda’r bobl ifanc, a’u gweld ar eu taith ffydd, yn gwneud yr holl gyhyrau poenus yn werth chweil! Mae’r dyfodol, a’r presennol, yn ddisglair – gweddïwch dros ein pobl ifanc, a beth am ystyried ymuno â’r bererindod y flwyddyn nesaf, neu fynd ar eich pererindod eich hun.