Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Achub bywydau ym Mhorth Tywyn

Achub bywydau ym Mhorth Tywyn

Mae Enfys Tanner yn siarad â'r llywiwr Gary Morgan wrth i fad achub Porth Tywyn nodi ei ben-blwydd yn 50 oed.

Llynedd dathlodd Bad Achub Porth Tywyn hanner canrif ers sefydlu yn 1974. Cefais sgwrs â Gary Morgan, aelod o Eglwys y Santes Fair Porth Tywyn sydd wedi bod yn wirfoddolwr ers 34 mlynedd. Erbyn hyn, mae Luke, ei fab hynaf, hefyd yn rhan o’r criw ac yn gweithio’n llawn amser i’r Gwasanaeth Bad Achub.

Gary Morgan [Porth Rywyn Lifeboat]

Mae Gary’n Llywiwr (Helmsman), yn aseswr hyfforddiant bad achub, yn gydlynydd hyfforddiant ac yn yrrwr os nad fe sydd ag awdurdod lansio’r bad. Mae dau fad achub ym Mhorth Tywyn a tua 20 o griw ond gwirfoddolwyr ydyn nhw i gyd. Ni ellir lansio’r bad heb Lywiwr ac un criw graddfa 2. Maent yn hyfforddi pob nos Fawrth a phob yn ail fore Sul. Mae’r gwirfoddolwyr bron i gyd yn gweithio y tu allan i Borth Tywyn ac weithiau mae’n anodd cael criw at ei gilydd yn gyflym. Mewn argyfwng felly, rhaid galw ar fad achub Dinbych y Pysgod sydd â 2 griw llawn amser ac sy’n fad achub pob tywydd.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys tynnu, patrymau chwilio, gwrthdroi a gweithio ar y cyd gydag hofrennydd. Cânt alwad tua 60 gwaith y flwyddyn ond cafwyd 11 galwad y penwythnos cynt a’r rhesymau’n amrywio o bobl yn cael eu dal gan y llanw, syrffwyr mewn trafferth, peiriannau’n torri lawr, rhywun yn mynd yn rhy bell ar gwch plentyn a rhai achosion mwy anodd fel bygwth hunan laddiad. Dwy flynedd yn ôl cafwyd pedwar achos o bobl wedi boddi mewn blwyddyn.

Mae’r badau wedi newid ers i Gary ddechrau. Yn 1991 dim ond radio, peiriant, angor a rhwyfau oedd ar y bad. Nawr ceir radio, GPS, oxygen, set cymorth cyntaf, darganfyddwr cyfeiriad ac mae gan bob aelod helmet a chit ei hunan. Yn y gorffennol rhaid oedd rhannu!

A fu Gary’n ofnus wrth fynd allan? Do weithiau pan fo’r tywydd yn stormus. Rhaid gwneud penderfyniad hyd yn oed ar ôl mynd allan, a yw’n peryglu’r criw’n ormodol? A’r emosiynau? Rhuthr o adrenalin, consyrn heb wybod beth sydd i ddod a syndod at ffolineb pobl. Mae gweithio fel tîm yn hanfodol er diogelwch pawb. Mae ymateb y rhai a achubwyd yn amrywio - embaras, anfodlonrwydd ond fel arfer diolchgarwch aruthrol.

A beth am ffydd Gary? Yn aml bydd yn cael gair bach â’r Bod Mawr cyn cychwyn.. Mae hyn yn rhoi nerth mewnol iddo ac yn tawelu ei ofnau.

Diolch Gary a phob aelod arall o’r badau achub am eu dewrder.

Enfys Tanner talks to helmsman Gary Morgan as the Burry Port lifeboat marks its 50th anniversary.