QR-rwydo – cadwch lygad am y Codau QR amheus
Collwyd tua £3.5 miliwn i sgamiau cod QR yn 2024, yn ôl adroddiad newydd am sgamiau gan y cylchgrawn defnyddwyr Which?

Mae'r sgamiau hyn yn cynnwys troseddwyr yn creu codau QR a fydd yn eich arwain i wefan sy'n dynwared gwasanaeth dilys, fel siop ar-lein neu safle talu maes parcio.
Y ffordd fwyaf cyffredin y mae sgamwyr yn dosbarthu codau QR ffug yw trwy eu hargraffu a'u glynu ar beiriannau talu mewn meysydd parcio. Pan fydd rhywun yn dod i dalu am barcio, mae’n ddiarwybod yn dilyn y cod QR ffug ac yn cael ei arwain i wefan dalu sy'n cael ei rhedeg gan sgamiwr.
Gall sgamwyr hefyd e-bostio codau QR ffug at bobl. Yn yr achosion hyn, gall y sgamiwr esgus ei fod yn gwmni neu wasanaeth dilys a gofyn i bobl ddilyn y cod QR i wirio eu cyfrif neu dderbyn taliad.
Mae Which? yn cynnig cyngor defnyddiol ar gyfer adnabod ac osgoi sgamiau codau QR, gan gynnwys:
- Cadwch lygad am arwyddion o ymyrryd - allwch chi ddweud bod y cod QR wedi’i ludo dros rywbeth? Os nad ydych chi'n siŵr, nodwch gyfeiriad y wefan â llaw gan osgoi sganio'r cod.
- Gwiriwch gyfeiriad y wefan cyn ei ddilyn. Pan fyddwch chi'n sganio cod QR, dylech weld y cyfeiriad yn ymddangos cyn i chi gael eich ailgyfeirio ato. Gwiriwch y cyfeiriad i wneud yn siŵr ei fod yn cyfateb i'r hyn roeddech chi'n ei ddisgwyl.
- Dylech osgoi defnyddio cod QR i wneud taliad os oes modd.
- Dylech osgoi apiau sganio codau QR, oherwydd gallai gynyddu'r risg o lawrlwytho maleiswedd neu gael eich ailgyfeirio at hysbyseb gamarweiniol. Mae gan y rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol ddarllenwyr codau QR o fewn camera’r ffôn, felly defnyddiwch hynny i sganio codau QR yn lle hynny.
- Dylech osgoi sganio codau QR mewn e-byst, oherwydd gallai sgamwyr ddefnyddio'r rhain i guddio dolenni gwe-rwydo.
Os byddwch chi’n colli unrhyw arian i sgam, ffoniwch eich banc ar unwaith gan ddefnyddio'r rhif ar gefn eich cerdyn banc a rhowch wybod i Action Fraud ar 0300 123 2040