Saith milltir o therapi
Mae Alun Ifans yn argyhoeddedig bod taith gerdded dda yn ffordd o ddatrys pob math o broblemau – teithiau cerdded fel hon…
Dwi’n argyhoeddedig fod cerdded yn gymorth i ddatrys problemau. A gellir ei wneud wrth gerdded y saith milltir o gwmpas cronfa ddŵr Llys-y-frân., tua tair milltir o Faenclochog. Byddaf yn cerdded yn aml iawn, i ymarfer corff, gweld gogoniant byd natur a rhoi tangnefedd i’r enaid.
![Llys y Fran [Crown Copyright]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Llys_y_Fran.width-500.jpg)
Adeiladwyd y gronfa ddŵr yn 1971 i gyflenwi dŵr i’r purfeydd olew yn Aberdaugleddau ar gost o £3.3 miliwn. Daw nifer fawr o bysgotwyr yno i geisio dal brithyll yr enfys a’r brithyll brown. . Gallwch bysgota â mwydyn neu â phluen o’r glannau neu o gwch.
Mae angen esgidiau addas , ac mae’n daith tua dwy awr a hanner i dair awr i gerdded o gwmpas y llyn.. Âf i fyny’r rhiw serth ac yn mynedfa’r goedwig dderi yma gallwch weld mulfrain (neu’r bilidowcar) yn y coed yn tacluso’u plu ac yn ymestyn eu hadenydd i’w sychu. Nid yw’r fulfran yn cynhyrchu olew naturiol sy’n cadw dŵr rhag glynu wrth ei blu – ac mae’n sychu’r plu bob tro y daw o’r dŵr.
Y frân yw arwyddlun y parc gwledig oherwydd ei hamlygrwydd, a gwelir cifrain, brain tyddyn, jac-do, ydfrain a phiod yn amlwg iawn.
Yn yr hydref a’r gwanwyn gallwch weld yr adar dŵr,-hwyaid gwyllt, wiwell, yr hwyaid pengoch, yr hwyaid copog a’r hwyaid llygaid-aur . Weithiau mae’r alarch gwyllt a’r alarch Bewick yno , ynghyd â’r ŵydd fronwen a’r trochydd, a nifer o wyddau Canada. Mae yna adar anarferol megis yr wylan fach, y forwennol ddu, y bipbydd bach a’r pibydd torchog .
Yn y goedlan dderi mae’r cudyll glas, y boda, cnocell y coed, sgrech y coed a thelor y coed yn nythu, ac yn y coedydd Sitka gwelir yn aml y dryw eurben ac adar eraill . Mae’r crychydd yn chwilio am bysgod yn y llyn gydol y flwyddyn, Cewch gip ar famaliaid megis y mochyn daear, y llwynog, y wenci, y ffwlbart a’r wiwer lwyd.
Mae’r wiwer lwyd, creadur bach pert, yn gyffredin iawn erbyn heddiw yn y goedlan yno . Bydd yn bwyta wyau a chywion adar gwylltion ar bob cyfle.
Un blodyn cyffredin yn yr haf yw clatsh y cŵn (enw arall yw bysedd y cŵn). Roedd degau ohonynt wedi tyfu lle bu coed wedi i weithwyr glirio tir. Er ei fod yn blanhigyn gwenwynig iawn mae’n ddefnyddiol i greu’r cyffur digitalin, ac fe’i ddefnyddir i drin anhwylderau’r galon.
A thina’r meddilie sy’n dwad ichi, pan fo’ch chi’n cerdded o gwmpas Cronfa Ddŵr Llys-y-frân. Problem wedi'i datrys!