O, oedden ni angen hawleb?
Nicola Davies, y cyn-Syrfëwr Esgobaethol a chadwraethwr achrededig, sy’n esbonio pam mae angen hawleb – ac yna’n cynnig help llaw.
Rydw i wedi ymweld â thua 10 eglwys eleni i gynnig cyngor er mwyn helpu i gynllunio gwaith cynnal a chadw, ac weithiau i integreiddio’r cyfleusterau toiledau a chegin gorfodol.
Y cam cyntaf yw edrych ar y ddau Arolwg Pum Mlynedd diwethaf, sy’n nodi unrhyw waith a ddaeth i’r amlwg ac i weld a yw’r gwaith brys wedi cael ei gwblhau, a hefyd i gael syniad o gyflwr cyffredinol yr adeilad.
Yr ail gam yw gwirio’r system am unrhyw gydsyniadau hawleb, a’r trydydd cam yw ymweld â’r adeilad fy hun i weld yr adeiladwaith cyffredinol a’r ardaloedd penodol dan sylw, fel arfer gydag aelodau o’r eglwys a’r bugail.
Fodd bynnag, daeth yn amlwg fod gwaith wedi cael ei wneud ar fwy na hanner y safleoedd hyn heb unrhyw gydsyniad, gan yn aml achosi niwed i’r adeiladau.
Dyma’r pedwar ‘rheswm’ neu fyth i mi eu clywed:
- “Roedd yr Arolwg Pum Mlynedd ar waith, felly fe wnaethon ni fwrw iddi…”
- “Dim ond paentio oedd e, felly roedd hi’n haws bwrw ‘mlaen a’i wneud e…”
- “Mae’n cymryd gormod o amser, a dydy’r broses ddim yn syml…”
- “Allwn ni ddim fforddio ffioedd pensaer, prin y gallwn ni fforddio gwneud y gwaith…”
Mae’n drosedd gwneud gwaith ar adeilad rhestredig, sy’n cynnwys ar unrhyw strwythur neu adeiladwaith o fewn ei gwrtil, heb gydsyniad.
Mae angen i ni fynd i’r afael â’r mythau hyn a’u chwalu:
- Dydy’r Arolwg Pum Mlynedd ddim yn darparu cydsyniad na’r dull na’r deunyddiau i wneud y gwaith – mae’n rhaid gofyn am gyngor proffesiynol gan arbenigwr cadwraeth achrededig. Gofynnwch am fanylion.
- Mae paent yn amrywio ac mae ambell baent yn anaddas – yn aml, gall defnyddio’r paent anghywir achosi difrod, i baent sydd yno eisoes a hyd yn oed i blastr, gan achosi pilio ac asglodi difrifol. Y cam cyntaf bob amser yw holi am gyngor.
- Mae’r broses yn araf a bydd angen i’r gweithiwr proffesiynol (pwynt 1 uchod) ddarparu elfennau anoddach ac angenrheidiol y cais ar eich rhan.
- Ceisiwch gyngor ac fe allai fod yn bosibl rhannu’r gwaith er mwyn rheoli costau’n fwy effeithiol. Gofynnwch am help.
Rwy’n cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n ansicr beth i’w wneud nesaf. Rwy’n eich annog i ofyn am help a chyngor gen i – mae’n rhad ac am ddim ac yn ymarferol. Rydyn ni i gyd yn geidwaid yr adeiladau hyn, ac er nad yw hynny’n dasg hawdd, da chi peidiwch â pheryglu’ch hun na’n hadeiladau.
nicoladavies@churchinwales.org.uk