Sut ddaeth y Beibl Cymraeg cyntaf i Gymru o’r diwedd
Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi, sy’n adrodd hanes sut y daeth Beibl Cymraeg o flwyddyn Armada Sbaen i Gymru am y tro cyntaf.

Roedd Mehefin a Gorffennaf 2025 yn gyfnod rhyfeddol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ers tro byd, rydyn ni wedi bod yn aelodau o gymuned llyfrgelloedd a chasgliadau eglwysi cadeiriol (CALCA) y DU ac Iwerddon. Roedden nhw’n gefnogol iawn i ni wrth i ni adfywio llyfrgell yr eglwys gadeiriol ychydig flynyddoedd yn ôl. Felly roedd yn anrhydedd i ni gael cynnal cynhadledd tri diwrnod CALCA pan ddaeth i Gymru am y tro cyntaf.
Roedd themâu’r gynhadledd yn cynnwys hanes a datblygiad y Beiblau cyntaf yn y Gymraeg ac yn y Wyddeleg. Mae benthyg llyfrau prin rhwng sefydliadau yn gallu bod yn anodd ac yn gostus – yn enwedig i sefydliadau heb gronfeydd bras yr amgueddfeydd mawr. Ond roedd cydweithio ag Abaty Westminster yn brofiad gwirioneddol ddyrchafol a chefnogol.
Rhoddwyd y Beibl sydd yn Abaty Westminster i’w Lyfrgell ym mis Tachwedd 1588 gan y Parch. William Morgan. Roedd deddfwriaeth a basiwyd yn ystod teyrnasiad Elizabeth I wedi gorchymyn rhoi Beibl Cymraeg i bob pentref yng Nghymru. Roedd yn rhaid gwneud y gwaith argraffu yn Llundain. Pan oedd yn goruchwylio’r gwaith, arhosodd William Morgan gyda’i gyfaill o Goleg Sant Ioan, Caergrawnt a gogledd Cymru, Gabriel Goodman, a oedd wedi dod yn Ddeon Abaty Westminster.
Roedd yn gyfnod cythryblus, yn dilyn ymddangosiad Armada Sbaen a’i fygythiad i ddychwelyd y gwanwyn canlynol. O ganlyniad, ni fyddai William Morgan wedi gwybod i sicrwydd y byddai’r Beiblau Cymraeg wedi cyrraedd pob pentref yng Nghymru. Drwy roi copi i Lyfrgell Abaty Westminster, sicrhaodd y byddai un copi, o leiaf, yn derbyn gofal diogel a phroffesiynol.
Mae’r Llyfrgell honno hefyd yn aelod o CALCA, a chafwyd cadarnhad fod Beibl William Morgan yn dal yn ddiogel yn eu dwylo. Daeth yn amlwg hefyd, cyn cais Eglwys Gadeiriol Tyddewi, nad oedd neb yng Nghymru wedi gofyn am gael ei fenthyg! Er ei fod eisiau iddo gael ei gadw yn Llyfrgell Abaty Westminster, nid ydym yn credu y byddai William Morgan wedi malio iddo gael ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru dros 400 mlynedd yn ddiweddarach.
Ar ôl cynhadledd mis Mehefin, a thrwy gydol mis Gorffennaf, arddangoswyd Beibl 1588 yn gyhoeddus yn yr Eglwys Gadeiriol. Daeth cannoedd o bobl i’w weld ac ymuno yn y gwahanol deithiau a sgyrsiau a drefnwyd i gyd-fynd â’r arddangosfa. Yn ogystal, diolch i ddarllediadau a gwefannau, cafodd ei weld gan dros filiwn o bobl ledled y byd.
Canlyniad arall llawn cyn bwysiced yw’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan dimau llyfrgelloedd Tyddewi ac Abaty Westminster bellach. Bydd canlyniadau cyntaf y gwaith ymchwil hwnnw’n cael eu datgelu mewn cyflwyniad yn yr Eglwys Gadeiriol ddydd Iau 9 Hydref, ac mae tocynnau ar gael ar-lein ar gyfer yr achlysur yn https://www.stdavidscathedral.org.uk/cy/llyfrgell.
I gael rhagor o wybodaeth: Library@StDavidsCathedral.org.uk