Gobaith mewn caledi
Gwydnwch dynol a bywyd ar y dibyn. Dyma bwt gan ein gohebydd yn Bukavu, ein Hesgobaeth Gydymaith yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, sy’n ysgrifennu am fywyd sy’n dychwelyd yn raddol i ryw fath o normal, er gwaetha’r gwrthdaro sy’n parhau yn y rhanbarth
Mae pedwar mis wedi pasio bellach ers i ymosodiadau’r gwrthryfelwyr ddwysáu yn nwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, rhanbarth sydd wedi'i chreithio'n ddwfn gan ddegawdau o wrthdaro. Mae'r gost ddynol yn parhau i godi, a’r sefyllfa’n parhau i fod yn un llawn tensiwn. Er gwaethaf ymdrechion i sicrhau heddwch yn lleol, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol, nid oes eto wir sefydlogrwydd ar y gorwel.
Mae dinas Bukavu, er nad yw wedi dioddef llawer o ymosodiadau uniongyrchol, yn teimlo’r tensiynau. Mae ansicrwydd yn yr awyr, weithiau bydd ffyrdd ar gau, a phobl yn byw mewn pryder parhaus. Ond mewn rhai ardaloedd lle mae rhywfaint o heddwch wedi dychwelyd, mae bywyd yn ailddechrau'n araf. Mae ysgolion wedi ailagor, eglwysi yn cyfarfod eto, marchnadoedd yn adfywio, a’r cymunedau'n trefnu eu hunain gyda dewrder ac undod rhyfeddol.

Y gwytnwch hwn ym mhobl y Congo sy’n creu’r argraff fwyaf arnaf: er gwaethaf ofn a blinder, maen nhw'n parhau i obeithio. Maen nhw'n gwrthod ildio i anobaith. Maen nhw'n symud ymlaen, gam wrth gam, mewn cyd-destun lle gwelir pob dydd heb drais yn un o fuddugoliaeth.
Nid yw "ymdopi" yma yn golygu byw yn gyfforddus. Mae'n golygu gobeithio yng nghanol ansicrwydd, codi eto er gwaethaf colledion a chredu bod heddwch yn dal yn bosibl. Mae'n golygu gwrthod aros yn dawel hyd yn oed pan fo’r byd yn edrych i ffwrdd. Yn rhy aml, distawrwydd yw’r ymateb rhyngwladol i ddioddefaint dwyrain y Congo, er bod y rhesymau amdano yn rhai hynod fyd-eang.
Wrth i mi ysgrifennu’r pwt hwn, rydyn ni’n parhau i weddïo y daw diwedd i’r distawrwydd hwn. Y clywir y lleisiau hyn y tu hwnt i'n ffiniau; y bydd pobl o ewyllys da, ymhell ac agos, yn codi i sefyll ochr yn ochr â'r rhai sy'n brwydro bob dydd i oroesi, i addysgu, i wella, ac i ailadeiladu.
Er yn freuddwyd fregus mae heddwch yn parhau yn freuddwyd bwysig. Mae'n freuddwyd y mae'n rhaid i ni barhau i gredu ynddi, yn nod y mae'n rhaid i ni barhau i weithio tuag ato, ac yn weledigaeth y mae'n rhaid i ni ei chofleidio er gwaethaf pawb a phopeth.