Dydd Sul Digartrefedd
Mae Joanna Whitney, o Housing Justice Cymru, yn gwahodd cynulleidfaoedd i gymryd rhan
Mae elusen Housing Justice yn cynnal Dydd Sul Digartrefedd ar y dydd Sul cyn Diwrnod Digartrefedd y Byd bob blwyddyn. Y dyddiad pwysig eleni yw 5 Hydref, a’n thema yw Câr dy gymydog.
Gyda digartrefedd yn parhau ar gynnydd, ein nod yw hybu ymwybyddiaeth ymhlith eglwysi o’r materion sy’n ymwneud â chysgu allan a llety dros dro anaddas drwy ofyn iddyn nhw gynnal eu gwasanaeth Dydd Sul Digartrefedd eu hunain, naill ai ar 5 Hydref neu ar ddyddiad mwy cyfleus.
![homelessness [jon-tyson-ybRit7aeahc-unsplash]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/homelessness_jon-tyson-ybRit7aeahc-unsplash.width-500.jpg)
Mae data gan elusen The Wallich yn dangos bod bron i 11,000 o bobl, gan gynnwys 2,596 o blant, yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru ym mis Ebrill 2025. Mae’r nifer hwn wedi bod yn cynyddu ers y pandemig, a hynny oherwydd diffyg tai cymdeithasol a chyfraddau Lwfans Tai Lleol annigonol. Mae data Llywodraeth Cymru ar gyfer Mehefin 2025 hefyd yn amcangyfrif bod 116 o unigolion yn cysgu allan, er bod y nifer go iawn yn debygol o fod yn sylweddol uwch na hyn.
Drwy neilltuo amser i fyfyrio ar Ddydd Sul Digartrefedd, y gobaith yw y bydd cynulleidfaoedd eglwysi yn ystyried beth maen nhw’n gallu’i wneud yn eu cymuned eu hunain i wella’r sefyllfa o ran digartrefedd, dioddefaint a thlodi. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael yma (Saesneg yn unig) i’ch cefnogi os hoffech chi gynnal eich gwasanaeth Dydd Sul Digartrefedd eich hun.