Gofal Ein Gwinllan Cyf.3
![Gofal Ein Gwinllan 3 [Book cover]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Gofal_Ein_Gwinllan_3_Book_cover.width-500.png)
Gofal ein Gwinllan Cyfrol 3
Golygyddion: Cynfael Lake, Densil Morgan
Cyhoeddwr: Y Lolfa
ISBN: 9781800997448
Pris: £12
Pan oeddwn yn ddisgybl ysgol uwchradd ym Mhorthaethwy yn nechrau’r saithdegau, teimlwn fy mod mewn lleiafrif bach ymhlith y Cymry Cymraeg, a hynny am fy mod yn Eglwyswr, yn rhyw hanner Sais yng ngolwg rhai. A doedd fy mhrofiad blaenorol mewn ysgol Eglwys, Cae Top, ym Mangor, oedd bryd hynny’n gaer o Seisnigrwydd, wedi rhoi sylfaen gadarn iawn i mi ddadlau â barn y mwyafrif – ar adeg pan oedd ‘mynd i’r capal’ yn parhau’n brofiad byw i blant Cymraeg eu hiaith.
Er y gwyddwn nad oedd labelu’r Eglwys yng Nghymru’n ‘Eglwys Saesneg’ yn gwbl deg, ond prin oedd y rhai (megis Bedwyr Lewis Jones a Helen Ramage) oedd yn lleisiau amlwg i wrthsefyll hynny.
Roedd angen cyfres megis Gofal ein Gwinllan hanner canrif yn ôl – ond, diolch fyth, mae yma heddiw. Y cyswllt cyntaf a gefais â’r prosiect oedd pan ofynnwyd i mi gyfieithu’r darlithoedd ar Zoom yn ystod y cyfnodau clo dan lach y pla. Un o’r pethau rhyfedd ynglŷn â bod yn gyfieithydd ar y pryd ydi bod y deunydd rywsut yn mynd drwy’r ymennydd i’w gyfieithu ond ddim yn aros yno! Felly roeddwn yn falch iawn pan benderfynwyd cyhoeddi’r darlithoedd mewn cyfrolau hefyd.
Mae’r drydedd o’r cyfrolau hynny’n ymdrin ag ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac, fel y cyfrolau blaenorol, yn cynnwys ysgrifau ar amrywiaeth eang o ‘ofalwyr ein gwinllan’, rhai, megis Alfred Ollivant a Daniel Silvan Evans, yn dal yn enwau cyfarwydd, mewn cylchoedd academaidd, o leiaf, ac eraill, megis Jane Williams, ‘Ysgafell’, wedi mynd dros gof i raddau helaeth.
O ddiddordeb arbennig i Esgobaeth Tyddewi mae Connop Thirlwall, fu’n esgob yno am 34 o flynyddoedd ac Ollivant, a fu’n is-brifathro yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, cyn ei benodi’n Esgob Llandaf. Saeson oedd y ddau, ond fe ddysgodd y ddau’r Gymraeg, Ollivant yn dod yn siaradwr rhugl, ond Thirlwall heb erioed ddod yn gwbl hyderus yn yr iaith lafar, er y gallai ysgrifennu’r iaith yn grefftus. Ac yr oedd y naill fel y llall yn frwd eu cefnogaeth i ffyniant yr iaith o fewn yr Eglwys ac Ollivant, yn arbennig, yn bleidiol i gydweithredu â’r enwadau anghydffurfiol.
Anodd mewn adolygiad byr fel hwn ydi crynhoi fy ngwerthfawrogiad o’r gyfrol yn effeithiol, ond dyma gloi â thri sylw:
Yn gyntaf, fel yn y ddwy gyfrol flaenorol, er bod yr ysgrifau’n amlwg yn seiliedig ar ymchwil academaidd trylwyr, nid oes gofyn bod yn academydd i’w gwerthfawrogi – maent oll yn dweud stori a hynny mewn arddull afaelgar a difyr. Yn ail, maent oll yn cynnwys gwersi i ni heddiw, nid y lleiaf bod unigolion o gefndiroedd annisgwyl yn gallu bod yn gymwynaswyr effeithiol i’n hiaith a’n diwylliant, a hynny’n aml mewn cyd-destunau anaddawol hefyd. Yn drydydd, rhaid diolch nid yn unig i’r cyfranwyr, ond hefyd i’r golygyddion, Cynfael Lake a Densil Morgan, am eu gwaith destlus yn cysoni mân bwyntiau arddull, yn iacháu teipos ac ati – gwn hyn yn iawn o’r gwaith a osodais iddynt mewn ysgrif a gyfrennais innau ar gyfer un o’r cyfrolau blaenorol!
Gofal ein Gwinllan, gofal yn wir. Ac wrth i ni agosáu at y dydd heddiw, mae’n gyffrous meddwl beth all y fenter nesaf fod yn olyniaeth y gyfres werthfawr hon...
Dr Sion Aled Owen