Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Dyddiadur Gwraig Ficer

Dyddiadur Gwraig Ficer

Polly Zipperlen sy’n dathlu ethol archesgob benywaidd cyntaf Cymru – ac yn galw pawb i’r gad.

O rifyn i rifyn, byddaf wrthi o hyd yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer fy erthygl. Yn y misoedd diwethaf, mae pynciau di-ri wedi ’sgubo fel mellten drwy ’mhen, mor chwim fel mai dim ond cynffon y syniad sy’n aros yn y cof - fel tân siafins.

Archbishop_Cherry_Vann

Ond - Wham! (teyrnged wrth basio i grŵp pop gwych o'r 80au) ar y 30ain o Orffennaf, etholwyd yr Archesgob Cherry Vann. Yn llythrennol, dyma rodd gan Dduw, a pha well ysbrydoliaeth allwn i ei chael ar gyfer erthygl y mis - ethol menyw i swydd arweinydd yr Eglwys yng Nghymru, ond hefyd, ethol menyw sy’n agored hoyw ac sydd ar ben hynny’n ymddangos mewn siaced ledr, fel seren roc o'r 80au. Dyma rywbeth sy’n gwneud i’m calon ganu... sy’n dipyn gwell na bod fy llais yn canu, credwch chi fi. Os ydych chi dan yr argraff fod pob gwraig i ficer yn gallu chwarae'r organ a chanu, wel siom sy’n eich aros chi.

Rwy'n deall, fodd bynnag, nad yw pawb mor gyffrous â fi am benodi’r Archesgob, ac mae hynny wedi gwneud i mi feddwl pam mae beirniadaeth a bai mor fynych yn glanio wrth draed menywod. Cefais fy atgoffa o’m ffrind sy’n anffyddiwr, ar ôl clywed am benodiad yr Esgob Joanna, a’i chyhuddodd o fod yn 'uchelgeisiol' fel pe bai hynny yn bechod o’r mwyaf. Fy ateb i oedd "Hy! Mae’n amlwg ei bod hi'n uchelgeisiol; hi yw Esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru. Chaiff neb swydd esgob drwy segura.’

Y tu allan i fywyd yr eglwys hefyd, rwy'n siŵr y bydd gennych chi i gyd stori debyg i'w hadrodd. Pan ffraeodd dau aelod o'n teulu ni, y wraig gafodd y bai. Ar ôl rhwyfo 3,200 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd, roedd mor ddoniol clywed pobl yn dweud – "Pa fenyw fyddai'n codi ei phac fel ’na ac yn gadael ei gŵr a’r plant yn eu harddegau?"

A hyd yn oed gan fenywod hefyd. Clywais un o'r menywod a fu’n rhwyfo’r Iwerydd yn beirniadu menyw ifanc a oedd wedi cymryd rhan mewn ras hwylio unigol epig ar draws y byd, gan ei chollfarnu am gael agwedd mor amaturaidd. A wnaeth i mi chwerthin yn dawel a meddwl, "Ddim fel ni ‘te, ‘all the gear’…”

Does bosib mai nofisiaid anturus yw pob un ohonon ni wrth i ni gychwyn ar unrhyw fenter. Mi roeddwn i'n bendant yn teimlo fel nofis pan ddois i â'm cyntaf-anedig adre o'r ysbyty.

Felly, rwy’n erfyn arnoch, yn ddynion a menywod yn Esgobaeth Tyddewi, gadewch i ni bob yr un ddathlu’r Archesgob Cherry yn gyhoeddus. Gadewch i ni ganu ei chlodydd, (wel, nid fi yn amlwg!) a’i chymeradwyo a’i chanmol. Mi fydd hi'n gwbl wych os rhown ni’r cyfle iddi.