Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Creu economi llesiant

Creu economi llesiant

Mae Jeremy Martineau yn eich gwahodd i helpu i sicrhau bod ffydd yn ganolog i economi llesiant

Mae'r Beibl yn llawn cyfarwyddiadau ar sut i drefnu economi, er budd pawb a chan gydnabod na allwn ni fynd â’n cyfoeth gyda ni wrth i ni farw. Mae Deuteronomium 30 adnodau 13-20 a Luc 12 adnodau 131-21 yn ambell enghraifft.

Mae pobl ffydd yn cael eu cymell i ddangos eu ffydd yn y ffordd maen nhw'n byw, gan gynnwys sut i lunio eu heconomi ac economi'r genedl.

Economi Llesiant Cymru yw cangen Cymru o'r Gynghrair Economi Llesiant Fyd-eang. Fe'i sefydlwyd yn 2020, ac mae'n gweithio i hyrwyddo economi sy'n rhoi blaenoriaeth i lesiant pobl a llesiant amgylcheddol dros fesurau twf yn unig. Mae ei nodau yn cyd-fynd â nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Cynhelir Cynhadledd Genedlaethol yr Economi Llesiant ddydd Mercher 12 Tachwedd yn Arena Abertawe rhwng 10:30-5:30 ac mae'n agored i bawb: arweinwyr cymunedol, ymgyrchwyr, llunwyr polisi, busnesau, artistiaid, academyddion a dinasyddion. Bydd yn gwneud y canlynol:

● Archwilio dewisiadau amgen i fodelau economaidd echdynnol (e.e. dulliau cylchol, adfywiol, dan arweiniad y gymuned);

● Arddangos mentrau arloesi ar lawr gwlad a mentrau cymunedol o bob cwr o Gymru;

● Archwilio sut y gall polisi cyhoeddus, camau gweithredu lleol a dychymyg ar y cyd ail-lunio economïau ffyniant a gofal sy'n seiliedig ar leoedd.

Y thema yw "Cyd-greu economi sy'n gweithio i bobl Cymru a lleoedd Cymru.”

Rwy'n annog y trefnwyr i wneud lle yn y gynhadledd i ganolbwyntio ar gyfraniad cymunedau ffydd. Dewch draw a thystiwch i'ch ffydd.

Cofrestrwch yma i gael tocyn am ddim https://www.4theregion.org.uk/wellbeing-economy-cymru-2025/