Hanesion Plentyndod Ficerdy
Yn y byd,tu allan i’r Ficerdy, roedd pethau diddorol yn digwydd. Mae Eluned Rees yn cofio
Un o’m atgofion cyntaf yw cael fy nghodi o’r gwely,yn hwyr yn y nos dywyll, fy nghario mewn blanced mâs i’r Ford Popular du, a mynd o Lwyndafydd i Aberporth.Roedd fy rhieni am i fi weld rhywbeth oedd yn digwydd yn yr Safle Saethu yno, rwyn meddwl, neu bod rhywbeth rhyfedd yn yr awyr, fel roced. Yr antur fwyaf oedd bod mâs yn y byd tywyll.
Y digwyddiad byd-eang nesaf a gofiaf yw Argyfwng Ciwba. Roeddwn yn rhy ifanc i ddeall pethe’n iawn, ond fe gofiaf teimlo’r gofid yn y tŷ wrth inni wrando ar y newyddion ar y radio. Cyn cael teledu, ac wrth gwrs cyn newyddion 24 awr fel y byddai heddiw, deuai ein newyddion o enau Alvar Lidell ar yr ‘Home Service’ ac o ddarllen y Western Mail. Fyddai pethau heddiw mor wahanol gyda pawb yn gweld y byd i gyd bob awr o’r dydd ar eu ffonau.
Bob nos Wener, fe fyddai Clwb Ieuencid yn cwrdd yn Neuadd Llangyndeyrn, ac un noson, Tachwedd 22ain, 1963, daethom adre i glywed bod John F.Kennedy wedi ei saethu’n farw. Mae na ddywediad, ond oes e, …Mae pawb yn cofio ble oedden nhw pan gafodd JFK ei ladd. Roedd y byd mewn sioc, ond yn rhyfedd, dwyf fi ddim yn cofio llawer am lofruddiaeth ei frawd, Robert.
![jfk-limousine [getarchive]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/jfk-limousine-94c041.width-500.png)
![Aberfan [People's Collection Wales]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Aberfan.width-500.jpg)
Erbyn 1966 roeddwn yn yn yr Ysgol Ramadeg, ac mewn gwasanaeth yn y Neuadd daeth y newyddion am drychineb Aberfan. Roedd sawl un o’n hathrawon yn dod o gymoedd y De, ac roedd bron pawb ohonynt, yn eistedd mewn rhes bob ochr i’r merched, yn wylo., Roeddem ni ar ein penolau ar y llawr oer, fel arfer, mewn tawelwch hollol. Erbyn hynny roedd teledu gyda ni yn y tŷ. Ni chredaf ein bod ni, fel Cymry, yn enwedig yn y De, wedi dod dros y drychineb honno. Ers hynny, rwyf wedi cyfarfod ,â sawl dyn a oedd wedi eu tynnu allan o’r ysgolion lleol, bechgyn ifanc cryf, a’u cludo i Aberfan , gyda rhaw yr un, i geisio helpu. Meddyliwch am yr effaith gafodd hynny arnynt hwythau.
Yn haf 1969, heblaw am y nonsens oedd yn digwydd yng Nghaernarfon (!) fe laniodd dyn ar y lleuad. Roeddem ni yn sefyll mewn carafan ym Mae Limeslade, y Mwmbwls. I fod yn hollol onest, roeddem ni’n dwy â mwy o ddiddordeb mewn treulio amser yn chwarae ar y gemau yn yr ‘Amusement Arcade’, ac yn llygadu ambell fachgen oedd yn gweithio yno, ac yn gadael i ni chwarae am ddim! Rhag ein cwilydd!