Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Hwyrol Weddi

Hwyrol Weddi

Trwy waith ymwchwil Mrs Gayle Jeffrey, Eglwys Tregaron, cawsom wybod am gymorth ariannol roedd y Choral Evensong Trust yn ei gynnig i gynorthwyo eglwysi ddathlu gŵyl eu nawddsant. Er fod llawer mwy wedi ymgeisio na’r arian oedd wedi ei neilltuo, trwy haelion’r Ymddiriedolaeth, fe ariannwyd pob cais!

Dathlwyd Gŵyl Genedigaeth Ioan Fedyddiwr yn Eglwys Ystrad Meurig gyda gwasanaeth o’r Hwyrol Weddi ar Gân ar ddydd Sul 22ain o Fehefin. Cyn y gwasanaeth, mwynhawyd te mefus gan bawb oedd wedi dod ynghyd yng Nghanolfan Edward Richard, tra’n cael eu diddanu gan Motje Woolf a Tim Lee – dau gerddor profiadol.

Holy Trinity Choir @ Ystrad Meurig

Arweiniwyd canu’r gwasanaeth gan Gôr Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth a heb ei parodrwydd ewyllysgar i ymweld â’r eglwys, ni fyddai’n bosib cynnal y gwasanaeth. Fe’n bendithiwyd â phresenoldeb dau organydd talentog, sef Mr Darryl Walters, organydd yr eglwys, a Mr Daniel Smith, organydd y côr. Darryl oedd yn gyfrifol am chwarae’r organ i’r rhannau cynulleidfaol a Daniel oedd yn cyfeilio i’r côr.

Yr anthem a ganwyd gan y côr oedd ‘Jesu joy of man’s desiring’ a’r gerddoriaeth wedi ei gyfansoddi gan J.S. Bach tua’r un adeg â cychwynnwyd dysgu bechgyn lleol yn Ystrad Meurig – yr hyn a ddaeth mewn amser i fod yn ysgol nodedig Ystrad Meurig, ac yn ddiweddarach Coleg Sant Ioan. Braf iawn oedd canu un o emynau sylfaenydd yr Ysgol, Edward Richard, sef ‘Mae Crist â pheraidd, lwysaidd lais…’

Y pregethwr gwadd oedd y Parch Ganon Aled Williams sydd a chysylltiad clos ag Ystrad Meurig dros flynyddoedd maith. Ar ddiwedd 2024 roedd Aled wedi cyhoeddi ei lyfr ‘Ysgol Ystrad Meurig 1757-1973’ a’i lansio yng Nghanolfan Edward Richard ym mhresenolded Esgob Tyddewi, y Gwir Barch Dorrien Davies, cyfrol sy’n rhoi ar gof a chadw gyfraniad amhrisiadwy yr ysgol i’r Eglwys yn gyffredinol.

Yn naturiol, soniodd Aled am y llyfr yn y gwasanaeth, ac mor falch ydoedd medru dychwelyd i Ystrad Meurig ac eistedd yng nghadair yr ennwog Edward Richard, ond Ioan Fedyddiwr oedd testun ei anerchiad. Gan gymharu Ioan â seren wib, fe’n hanogodd i gael ein hysbrydoli gan garisma Ioan, ei ymroddiad â’r Gwir, a’i ffyddlondeb wrth gyfeirio yn gyson at yr Arglwydd Iesu.

Da oedd croesawi Uchel Siryf Dyfed, Mrs Ann Jones, Llanddewi Brefi, y Cynghorwyr Sir, offeiriaid yr Ardal Weinidogaeth Leol a chyfeillion o eglwysi a chapeli cyfagos i ymuno â’r dathlu. Roedd un o ddisgyblion ola’r ysgol yn y gynulleidfa, y Tad Timothy Pearce, sydd bellach yn offeiriad gyda’r Eglwys Uniongred Roegaidd! Cafwyd gwasanaeth bendithiol a dathliad pwrpasol iawn ar achlysur holl bwysig.