Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 O dan eich traed

O dan eich traed

Mae mynwentydd yn hafan i lygod. Mae gan Harriet Carty, o Gofalu am Erw Duw, rai cynghorion ar sut i'w gweld nhw.

Oes fer sydd gan lygod bach ond maen nhw’n atgenhedlu ar raddfa fawr; mae llygod y coed er enghraifft yn tueddu i fyw am tua blwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe allan nhw gael hyd at chwe thorllwyth o rhwng pedwar ac wyth bob tro. Mewn mynwent eglwys, efallai y bydd gennych sawl rhywogaeth, y mwyaf tebygol yw llygod y coed, llygod y gwair a’r llyg cyffredin. Mae gan lygod y coed glustiau a llygaid mawr, sy'n ddefnyddiol ar gyfer eu bywyd nos i raddau helaeth tra bod gan lygod y gwair drwynau llai main a chlustiau a llygaid llai.

Wood_mouse [c_Margaret_Holland]

Field Vole [© Philip Precey]

Mae gan lyg nodweddion amlwg - trwyn hir, pigfain a llygaid bach. Mae angen i'r holl anifeiliaid hyn fwydo'n aml ac maen nhw bob amser yn symud, gyda llyg yn bwyta 80-90% o bwysau eu corff bob dydd. Maen nhw’n bwydo ar bryfed ac infertebratau eraill ond fe fyddan nhw hefyd yn mynd i'r afael â mwydod eithaf mawr, llawer mwy na nhw! Mae llygod a llygod y gwair yn chwilio am hadau, aeron a ffrwythau, ac yn storio rhai ohonyn nhw efallai ar gyfer nes ymlaen. Er y gall llygod fod yn ddringwyr ystwyth, mae llygod y gwair yn tueddu i aros ar y ddaear, gan ddilyn y llwybrau maen nhw'n eu gwneud trwy laswelltir, y gallwch eu gweld ar ôl ei dorri.

Yn anffodus iddyn nhw, mae llygod y gwair a llygod yn ysglyfaeth bwysig i ystod o rywogaethau eraill. Mae tylluanod brech, sy’n aml mewn mynwentydd, yn hela llygod bach fel y mae’r cudyll coch, y wenci, y llwynog ac, wrth gwrs, y gath gyffredin. Chwiliwch am belenni tylluanod o dan nyth neu glwyd; bwndeli bach ydyn nhw o rannau anfwytadwy o'u bwyd ac yn aml maen nhw’n cynnwys esgyrn y gellir eu tynnu allan o'r pelenni a'u hadnabod, gan ddweud wrthych chi beth maen nhw wedi bod yn ei fwyta. Ond dydy’r llyg, ar y llaw arall, ddim yn brif fwyd; efallai y byddwch chi'n dod o hyd i lyg wedi’i frathu a marw yn gorwedd ar lwybr sy'n awgrymu ei fod wedi ei hela ond nad oedd yn flasus iawn.

Mae mynwentydd eglwysi yn hafan i lygod, ac yn cynnwys clytwaith o laswelltir, llwyni, coetir a llawer o leoedd i wneud tyllau neu ddefnyddio craciau, corneli ac agennau sydd yno’n barod. Yn rhydd o chwynladdwyr a phlaladdwyr, maen nhw’n llawn bwyd tra bod gweirgloddiau hir a glaswellt garw twmpathog yn darparu gorchudd perffaith. Edrychwch i weld a allwch chi weld eu tyllau a'u rhedfeydd a dychmygwch eu bywydau prysur yn y lôn gyflym.