Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Dirgelwch y Beddau

Dirgelwch y Beddau

Mae rhywbeth od wedi bod yn digwydd mewn mynwentydd o amgylch yr esgobaeth

Llangorwen Gravestones 1

Mae tua dwsin o eglwysi wedi sôn am resi o gerrig beddi sydd wedi cael eu hanharddu, rhai â sialc coch, rhai â sialc gwyn a rhai â sialc glas.

Syd Smith, Warden Eglwys yr Holl Saint, Llangorwen, sy’n adrodd yr hanes:

“Fel llawer o Wardeiniaid, rwy’n cerdded o gwmpas y safle i archwilio’r adeilad a’r tir yn rheolaidd. Fel y rhan fwyaf o fynwentydd, mae ein beddau yn wynebu’r dwyrain, felly wnes i ddim gweld yr holl sialc yn anharddu’r cerrig bedd nes i fi edrych tua’r gorllewin. Roedd yr holl fynwent wedi’i heffeithio, a 200 o’r beddrodau yn waeth na’r gweddill.

“Fe ges i fy ffieiddio gan yr holl fandaliaeth, yn enwedig gan fod perthnasau’r ymadawedig yn dal i ymweld â rhai o’r beddau, er hyned ydyn nhw.

“Doedd neb wedi holi unrhyw fath o ganiatâd, na chaniatâd wedi ei roi, gan Ddeon yr Ardal Weinidogaeth na neb arall. Doedd neb yn gwybod dim am y prosiect; neb yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol.

“Prin yw’r sialc sydd wedi cael ei olchi ymaith gan law. Mae’n siŵr y bydd olion yr anharddu yn parhau am gryn amser, oni bai ein bod ni fel eglwys yn bwrw iddi i olchi’r cerrig beddi – ac mae hynny’n dasg sylweddol, o gofio sawl un sydd wedi cael eu targedu.

“Y peth lleiaf i’w ddisgwyl fyddai i bwy bynnag sy’n gyfrifol am y difrod di-hid hwn holi am ganiatâd, heb sôn am olchi’r cerrig beddi a dangos mwy o barch at deuluoedd y meirw.”

Mae anharddu cerrig beddi yn fwy na fandaliaeth – mae’n drosedd. Mae’n drosedd o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971 i ddifrodi neu ddinistrio eiddo sy’n perthyn i berson arall. Ac mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn mynd i’r afael yn benodol â difrod troseddol i gofebion, sy’n cynnwys cerrig beddi.

Mae hawl gan lysoedd i bennu dirwyon neu gosbau eraill; mae dedfryd o hyd at ddeng mlynedd o garchar yn bosibl ar gyfer yr achosion gwaethaf.

Ond mae yna dro yn y gynffon

Fel yr oedd Warden Smith, ei gydweithwyr ac adran eiddo’r esgobaeth yn ystyried beth i’w wneud, daeth gwybodaeth newydd i law. Daeth y tramgwyddwr ymlaen a chyfaddef cyfrifoldeb am yr anharddu.

Esboniodd ei fod yn casglu gwybodaeth ar gyfer gwefan sy’n darparu manylion am fannau claddu anwyliaid meirw coll. Diben y marciau sialc oedd gwneud y geiriau ar y cerrig yn fwy darllenadwy er mwyn eu cofnodi’n gywir.