Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Dyn amryddawn

Dyn amryddawn

David Hammond-Williams yn proffilio Cadeirydd newydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth

Tim Llewelyn 2025

Mae Tim Llewelyn yn ddyn prysur. Cymerodd wythnos iddo ddod o hyd i fwlch yn ei ddyddiadur i siarad am ei rôl newydd fel Cadeirydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth; wythnos o gyfarfodydd, neu baratoi ar eu cyfer, boed yng nghyd-destun yr eglwys neu y tu hwnt.

Dywedodd Mr Llewelyn, 60 oed, y cyn is-gadeirydd, ei bod yn "anrhydedd enfawr" iddo fod ei ragflaenydd, Hazel Evans, wedi gofyn iddo ymgymryd â'r rôl wedi iddi hithau ymddeol. "Rydyn ni i gyd yn ddyledus ac yn ddiolchgar iddi," meddai.

Daw'r Cadeirydd newydd o gefndir bancio, ar ôl ymuno â’r proffesiwn yn syth o'r ysgol, lle'r oedd yr Esgob yn gyd-ddisgybl. Wedi'i eni a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin, mae'n mynychu Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin, lle mae hefyd yn Drysorydd.

A chyfarfod ar hap gyda'i gyn gyd-ddisgybl a arweiniodd at ddechrau ymwneud â materion esgobaethol ar ôl ei ymddeoliad cynnar.

Tim Llewelyn at GB

Mae wedi ymrwymo’n ddiflino i'r gwaith. Nid dim ond Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth sy'n hoelio ei sylw, na hyd yn oed yr esgobaeth. Ar lefel daleithiol, mae'n aelod o Gorff y Cynrychiolwyr ac yn cadeirio Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.

Yn ogystal, mae'n cadeirio bwrdd rheoli cymdeithas dai leol ac yn is-gadeirydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru.

Ond mae'n dal i neilltuo amser iddo'i hun o fewn ei amserlen brysur, a gellir ei weld, yn unol â'i angerdd diweddaraf, yn teithio trwy gefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn rheolaidd ar gefn ei feic trydan.

Yn ôl ym Mwrdd Cyllid yr Esgobaeth, mae'n gwbl ymwybodol o'r dasg sydd o'n blaenau. "Mae'r dyfroedd yn dymhestlog," meddai. "Mae’n her i ni fel ag y mae i unrhyw sefydliad sy'n dibynnu ar gyfraniadau gan eraill.”

"Rydyn ni'n byw mewn cyfnod heriol ac rydyn ninnau hefyd yn wynebu’r un pwysau economaidd ag y mae pawb arall. Rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod yr arian a ymddiriedir i ni yn cael ei wario'n ddoeth ar waith sy'n cefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr esgobaeth."

A dyna fydd ffocws y cadeirydd newydd yn y blynyddoedd i ddod. “Hoffwn feddwl y gallai Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ddod bron yn 'amherthnasol' wrth i ni gyrraedd pwynt o sefydlogrwydd ariannol sy'n ein galluogi i ddarparu cefnogaeth ehangach i eglwysi o fewn y sgiliau sydd gan aelodau'r bwrdd i'w cynnig, yn hytrach na dim ond siarad am gyllid, a chadw’n pennau uwchben y dŵr.”

Ond bydd yn cymryd amser, a chyfraniadau parhaus, amhrisiadwy, y nifer sy'n rhoi o’u hamser a'u harbenigedd yn wirfoddol a hefyd yn cyfrannu’n hael yn ariannol. “Rwy'n ymwybodol iawn o’n dyled iddyn nhw; allen ni ddim gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud hebddyn nhw.”