Diffiniad o dduwdod
Mae Ainsley Griffiths yn disgrifio tarddiad Credo Nicea, a gyflwynwyd gyntaf 1700 o flynyddoedd yn ôl.
Yng ngwres llethol haf y flwyddyn 325 O.C. daeth esgobion o bob cwr o’r Eglwys Gristnogol at ei gilydd yn ninas Nicaea (y ddinas fodern İznik yn Twrci).

Daethant ynghyd ar gais yr Ymerawdwr Cystennin I, yr un a fu’n gyfrifol ychydig flynyddoedd yn gynt am lwyr newid statws Cristnogaeth o fewn yr Ymerodraeth Rufeinig. Gyda’r fath dro ar fyd, roedd datgan ffydd yn Iesu bellach yn gyfreithlon ac roedd oes erchyll yr erledigaethau wedi dirwyn i ben. Roedd Cristnogion yn cael cymryd eu lle fel aelodau parchus o’r gymdeithas a’r Eglwys yn derbyn anrhydedd, nid dirmyg.
Ond pam oedd angen i’r esgobion deithio’n bell i Nicaea am dros ddeufis o drafod a dirnad? Y prif reswm oedd ymateb i rwygiadau oedd wedi codi ynglŷn â dealltwriaeth diwinyddol yr Eglwys o’r Arglwydd Iesu Grist. Roedd Arius, offeiriad o Alexandria, wedi bod yn dysgu mai dim ond Duw y Tad oedd yn dragwyddol, gan daeru bod Iesu – “cyntafanedig yr holl greadigaeth” (Colosiad 1:15b) – yn perthyn i fyd y cread, nid i fywyd tragwyddol Duw: “yr oedd amser pan nad oedd y Mab” honnai. Fodd bynnag, i Alexander, Archesgob Alexandria, roedd barn Arius yn wrthun: roedd Alexander wedi bod yn pregethu bod y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân o’r un sylwedd dwyfol ac yn gyd-dragwyddol. Nid creadur mo’r Mab ond “delw’r Duw anweledig” (Colosiaid 1:15a), yr un a “welodd Duw yn dda i’w holl gyflawnder breswylio ynddo ef” (Colosiaid 1:19).
Yn ystod Cyngor Nicaea, bu’r esgobion yn trafod barnau ymrannol Alexander ac Arius a chafwyd mwyafrif clir o blaid Alexander, gydag Arius yn cael ei gondemnio fel heretic a’i alltudio. Cytunwyd ar ffurf o eiriau er mwyn cyhoeddi gwir ddealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol, yn unol â barn fwyafrifol Alexander a’i gefnogwyr. Dyma sail y credo a adroddwn yn ystod y Cymun Bendigaid, gan ddatgan ffydd “yn un Arglwydd Iesu Grist, unig Fab Duw, a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd, Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch, gwir Dduw o wir Dduw, wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur.” Geiriau cyfarwydd y litwrgi yw’r rhain i ni, ond yn 325 – ac ymhell tu hwnt – roeddent yn arwyddocaol dros ben wrth i’r Eglwys ddysgu sut i fynegi’r ffydd uniongred yn Iesu Grist: “gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad (Ioan 1:14b).
Dethlir y pen-blwydd arwyddocaol hwn gyda digwyddiadau ledled y byd ac yma yng Nghymru mewn gwasanaeth eciwmenaidd yn Nhyddewi ddiwedd Medi a chynhadledd ddiwinyddol yng Nghaerdydd ddechrau Hydref. Adroddir am y rhain yn rhifyn nesaf Pobl Dewi.