Hafan Pobl Dewi - Medi 2025 Stori o Seiber-lwyddiant

Stori o Seiber-lwyddiant

Dechreuodd Eglwys Ar-lein Dewi Sant yn 2020 pan nad oedden ni’n cael cwrdd mewn adeiladau – ond yr hyn sydd wedi datblygu yw cymuned addoli go iawn o bobl o Orllewin Cymru, y DU, a ledled y byd. Andy Dixon sy’n mewngofnodi.

St Davids Online Church

Sgrin yn llawn wynebau yn cyfarch ei gilydd wrth i bobl ymuno. Ar ôl ychydig funudau rydyn ni’n cael ein tawelu ac mae'r sgrin yn newid i drefn y gwasanaeth sy'n dangos y litwrgi ac mae ein hamser addoli ar fin dechrau.

Mae sawl un ohonom yn gaeth i’n tai ac yn methu mynd i mewn i adeilad eglwysig yn hawdd iawn os o gwbl; mae rhai dramor ac yn ymuno â ni o wahanol barthau amser; mae rhai yn teithio ac yn ymuno o feysydd parcio neu o wasanaethau traffyrdd. Mae sawl un wedi bod yn byw yn lleol ond wedi symud i ffwrdd ac yn dymuno cadw mewn cysylltiad â hen ffrindiau Cristnogol.

Ar y sgrin cawn ein harwain trwy'r gwasanaeth yn seiliedig ar litwrgïau Anglicanaidd, wedi'u haddasu i'r tymor neu'r achlysur, gyda gwahanol bobl yn arwain, gweddïo a darllen. Yna cyfle i ganu gyda’r corau, grwpiau a cherddorion gorau gan ddefnyddio emynau a chaneuon addoli o bob cwr o'r byd. Nawr rydyn ni'n rhoi'r gorau i rannu sgrin a bydd un ohonon ni neu un o'r clerigion wedi ymddeol o bob cwr o'r DU yr ydyn ni’n eu gwahodd i ymuno â ni, yn traddodi pregeth neu’n rhannu myfyrdod â ni (dim ond y gorau sy’n cael gwahoddiad!).

Gall pobl ymuno â ni o welyau ysbyty, neu wrth ofalu am wyrion (mae cael ein tawelu’n golygu nad yw sŵn cefndir yn tarfu). Yn ddiweddar rydyn ni wedi cael y fraint o gael ein harwain gan ambell un yn ystod eu dyddiau olaf.

Bob mis rydyn ni’n canolbwyntio ar un prosiect, elusen neu achos o angen ariannol arbennig ar gyfer cyfrannu – does gennym ni ddim unrhyw adeilad neu faich ariannol arall i i boeni amdanyn nhw. Mae'r Cymun Sanctaidd yn cael ei arwain gan offeiriad wedi ymddeol a gall pob un ohonom dderbyn ein bara a'n gwin wedi'u cysegru gan eiriau'r offeiriad a bwriadau ein holl galonnau.

Yn olaf, bendith ac yna cyfle am sgwrs mewn ystafelloedd trafod lle rydyn ni'n cael siarad â gwahanol bobl bob wythnos. Mae rhai yn ffarwelio ac yn gadael. Does dim angen cael eich gweld na siarad a gall rhywun ymuno yn dawel a gadael, os ydych chi gyda ni am y tro cyntaf i roi cynnig arnom ni.

Beth am ymuno â ni ar gyfer gwasanaeth dim ond i gael blas ar ein haddoliad a'n cymdeithas? Mewngofnodwch am 11am ar ddydd Sul yng Nghyfarfod Zoom 853 4090 65361 Cyfrinair: Churches