Tyddewi v. Goliath y Lobi Olew
Mae yna rywfaint o dynnu’n groes i’w weld yn digwydd yn erbyn y momentwm diweddar i ddod o hyd i ffyrdd ecolegol gynaliadwy o fyw. Peidiwch â chael eich twyllo gan newyddion ffug – dyna rybudd Swyddog Gofal y Greadigaeth, Marcus Zipperlen
Rydw i eisoes wedi myfyrio ar y tudalennau hyn am y gwrthwynebiad a ddaw gan y rhai o fewn Cristnogaeth sydd â’u pwyslais ar y ‘dyddiau olaf’ gan honni felly nad oes angen i ni boeni am y ddaear hon oherwydd y bydd yn cael ei llosgi’n fuan gan Dduw ac y bydd Cristnogion ‘o’r iawn ryw’ yn cael eu hachub.
Ond daw gwrthwynebiad mwy difrifol o fyd gwleidyddiaeth a busnes. Ym myd gwleidyddiaeth, mae rhai yn ceisio labelu gofalu am y greadigaeth fel hobi i’r elît trefol a phwnc obsesiynol y breintiedig sydd ag arian a rhyddid i boeni am y fath bethau. Dydy'r ystrydebau hyn ddim yn gweddu’n dda iawn i ni yma yng Ngorllewin Cymru.
Yn y diwydiant olew, mae yna lawer o arian yn noddi camwybodaeth am werth ynni adnewyddadwy neu gerbydau trydan. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn frith o ddelweddau a noddir sy’n cael eu rhannu wedi hynny gan ddefnyddwyr rheolaidd, gyda negeseuon yn amrywio o rai camarweiniol fel "mae tyrbinau gwynt yn lladd mwy o adar na gorsafoedd pŵer" i honiadau hollol wirion fel "mae ffermydd solar yn creu stormydd glaw a theiffŵns", sy’n gwbl groes i’r gwir sef, wrth gwrs, mai llosgi tanwydd ffosil sy'n gwaethygu'r digwyddiadau tywydd hyn.
Daw beirniadaeth lai ymrannol a mwy rhesymol ohonom fel cenedl sy'n cymryd camau i gyfyngu ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr gan y rhai sy'n dweud: "Pam y dylen ni wario cymaint o arian ar dechnolegau carbon isel a ninnau’n allyrru cyn lleied o nwyon tŷ gwydr o'i gymharu â Tsieina neu’r Unol Daleithiau?"
Wel, ar sail economaidd yn unig, mae angen i ni fod yn buddsoddi nawr yn nhechnoleg yfory neu byddwn yn cael ein gadael ar ein hôl go iawn. Ond fel Cristnogion dylem fedru arogli rhyw ddrwg yn y caws pan mae pobl yn gofyn: "Pam ddylwn i newid os nad ydyn nhw'n mynd i newid?" Fyddai gennym ni fawr o eglwys pe bai'r disgyblion wedi gwrthod ateb galwad Iesu oni bai bod pob pysgotwyr arall yn gwneud yr un fath. Pan fydd Duw yn galw, dydych chi ddim yn gwneud esgusodion, rydych chi’n ceisio dilyn, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud hynny’n betrusgar.
Mae'r Duw sy'n caru ac yn ymhyfrydu yn y Greadigaeth yn galw arnom i wneud yr un peth, a dydy hi ddim yn briodol dweud nad ydyn ni am wneud hynny oherwydd nad yw pawb arall yn ei wneud e. Peidiwch â disgyn i demtasiwn a chredu dadleuon amheus dros gynnal y status quo. Cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain dros Dduw a'r greadigaeth, fel y dysgodd Dewi Sant. Mae Teyrnas Dduw yn tyfu o hedyn mwstard, wedi'r cyfan.