Rhannu drwy Ofalu
Partneriaeth yw thema gweithgarwch cyfredol Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol, fel yr amlinellir yma gan Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Mae bob amser yn bleser pan ddaw grwpiau o bob rhan o'r esgobaeth i ymweld â ni. Daw rhai mewn ymateb i'n hapêl Gwaelod y Cwpwrdd. Gofynnwn i eglwysi ar draws yr esgobaeth dyrchu yng ngwaelod eu cypyrddau, neu efallai yn y festri, am hen Feiblau neu lyfrau gweddi. Wrth "hen" rydyn ni’n golygu 300 neu 400 mlwydd oed, pan gynhyrchwyd Beiblau a Llyfrau Gweddi yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
Roedden nhw’n llyfrau swmpus, trwm a ddosbarthwyd i bob eglwys yng Nghymru. Mae Beibl Cymraeg o 1620 y daethpwyd o hyd iddo’n ddiweddar mewn eglwys ger Caerfyrddin bellach yn y Llyfrgell. Byddwn yn ymweld â'r eglwys hon yn yr hydref.
Roedd Adfer y Frenhiniaeth yn y 1660au hefyd yn gyfnod o Feiblau a Llyfrau Gweddi newydd. Roedden ni’n falch o groesawu grŵp o eglwysi Llanarth yr ydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw ar ddarganfyddiadau prin yng ngwaelod eu cypyrddau o gyfnod yr Adferiad, sydd bellach yn Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol.
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth llawer o ymatebion i’n hymholiadau ymchwil ddwyn ffrwyth pan ddaeth bron i 100 o archaeolegwyr blaenllaw o Brydain, Iwerddon a Gogledd America i'r eglwys gadeiriol ar gyfer cynhadledd flynyddol Cymdeithas Archaeolegol Prydain. Rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am eu mewnwelediadau ar yr hyn rydyn ni’n ei gymryd mor ganiataol o’n cwmpas o ddydd i ddydd.
Ym mis Hydref byddwn yn croesawu Cymdeithas Henebion Eglwysi Cymru a'r Fforwm Cerrig ar gyfer diwrnod o gydastudiaethau. Unwaith eto, rydyn ni’n rhagweld y byddwn yn dysgu gan y naill a’r llall ac yn rhannu ein cofnodion ganrifoedd oed gyda nhw mewn cerrig a llyfrau.
Bydd hyn yn digwydd yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd, ac un o'r digwyddiadau eraill fydd ar y gweill fydd y trydydd cynhyrchiad o Thrice to Rome yn yr Eglwys Gadeiriol, sef dramateiddiad o amddiffyniad glew Gerallt Gymro o statws metropolitaidd Tyddewi yn y 12fed ganrif. Bydd hyn hefyd yn rhan o gynhadledd flynyddol Cymru’r Gyfraith.
Ac ym mis Mehefin 2025, mae ein heglwys gadeiriol yn croesawu cynhadledd flynyddol gyntaf Cymdeithas Archifau, Llyfrgelloedd a Chasgliadau y Cadeirlannau (CALCA) i'w chynnal yng Nghymru. Byddwn yn arddangos ein hadeilad arbennig, ein traddodiadau a'n Beiblau a'n Llyfrau Gweddi Cymraeg cynnar i eglwysi cadeiriol o’r DU ac Iwerddon.
Lle bo'n bosibl, rydyn ni’n trefnu'r gweithgareddau partneriaeth hyn fel y gall pobl nad ydyn nhw’n aelodau o grwpiau’r cynadleddau fynychu hefyd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb dderbyn rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn drwy e-bostio Library@StDavidsCathedral.org.uk