Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Diogelu – Gadewch i Ni Siarad Amdano

Diogelu – Gadewch i Ni Siarad Amdano

Mae Thirtyone:eight, prif elusen ddiogelu Cristnogol annibynnol y DU, wedi lansio ei hymgyrch ymwybyddiaeth diogelu flynyddol ar gyfer eglwysi – Dydd Sul Diogelu.

Cynhelir Dydd Sul Diogelu ar 17 Tachwedd. Eleni, pwyslais yr ymgyrch yw “Gadewch i ni Siarad Amdano” – gan annog eglwysi i fod yn fwy tryloyw am eu trefniadau diogelu.

Mae’r ymgyrch bellach yn ei chweched flwyddyn, a’r llynedd daeth dros 4,000 o eglwysi o gefndiroedd a thraddodiadau amrywiol ledled y DU at ei gilydd i ystyried eu taith ddiogelu.

Bydd eglwysi’n trafod a myfyrio am adegau pan wnaethpwyd pethau’n anghywir yn y gorffennol, yn meddwl am sut maen nhw’n cefnogi’r rhai sydd wedi cael eu brifo neu eu niweidio, ac yn amlygu a dathlu’r holl waith da sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r llenni i amddiffyn pobl fregus a chreu diwylliant a chymunedau mwy diogel i bawb, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r elusen ei hun a’r Eglwys yng Nghymru wedi cynhyrchu adnoddau amrywiol i helpu eglwysi i gymryd rhan, ac maen nhw ar gael i’w lawrlwytho o’u priod wefannau.