Tocio am Dyfiant
Mae'r esgobaeth wedi lansio strategaeth newydd a fydd, dros y flwyddyn nesaf, yn edrych ar y ffordd y mae pob eglwys yn cyflawni.
"Fi ydy'r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy'r garddwr. Mae'n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae'n trin ac yn tocio'r gangen honno'n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni." (Ioan 15.1-2)
Cyflwynwyd y strategaeth mewn Cynhadledd Esgobaethol Arbennig a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf. Mae'n cynnwys pedwar cam.
Y cam cyntaf, i'w gwblhau erbyn diwedd eleni, yw ymarfer canfod ffeithiau er mwyn cael cipolwg cyfoes ar bob eglwys, yn seiliedig ar fatrics wyth pwynt a fydd yn nodi eglwysi sydd naill ai'n ffynnu, yn tyfu, yn dirywio neu’n marw.
Sefydlwyd tasglu sy'n cynnwys uwch glerigion esgobaethol, lleygion, swyddogion a staff i ymgymryd â'r gwaith, o dan yr enw, y Grŵp Garddio.
Mae'r matrics yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned, addysg, stiwardiaeth, darpariaeth plant, ieuenctid a theuluoedd, llywodraethu, adeiladau, presenoldeb a gweinidogaeth. Bydd yna gategori amrywiol hefyd a fydd yn cwmpasu unrhyw beth nad yw'n perthyn i unrhyw un o'r categorïau hyn ond sy'n cael ei ystyried yn berthnasol.
Bydd yr ail gam ar ffurf sgyrsiau gydag unigolion allweddol yn seiliedig ar y canfyddiadau a gasglwyd yng Ngham Un er mwyn gallu treiddio i'r manylion. Yna, bydd Cam Tri yn llunio argymhellion cyn y cam olaf, pan wneir penderfyniadau ynghylch gweithredu.
Bydd adroddiad interim ar gynnydd yn cael ei wneud i Gynhadledd yr Esgobaeth ym mis Hydref a disgwylir i'r canlyniadau terfynol fod ar waith erbyn Cynhadledd 2025.
Wrth gyflwyno'r strategaeth, pwysleisiodd Archddiacon Tyddewi, Paul Mackness, nad oedd Tocio am Dyfiant yn ymwneud â chau eglwysi. "Ond nid yw'n ymwneud â'u cadw ar agor ychwaith," ychwanegodd.
"Mae'n rhaid i rywbeth newid," meddai. "Mae angen i ni fynd yn ôl at egwyddorion sylfaenol yr eglwys a cheisio ail-gyfeirio'r Eglwys tuag at dwf. Mae angen i'n heglwysi fod yn adnoddau i'w defnyddio ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys."
Os bydd cau'n cael ei argymell, bydd cyfle i gynulleidfaoedd dderbyn 'gofal lliniarol' i helpu i sicrhau'r canlyniad gorau posibl. Yn yr un modd, mae'r strategaeth wedi'i chynllunio i nodi meysydd gweithgarwch mewn eglwys y bernir ei bod yn tangyflawni lle gallai buddsoddiad wedi'i dargedu ar ffurf cyllid neu adnoddau eraill arwain at newid cadarnhaol.
Yn ei anerchiad fel Llywydd i gynhadledd mis Gorffennaf, dywedodd yr Esgob Dorrien ei bod hi’n hen bryd cael y strategaeth newydd. "Mae angen i ni bwyso a mesur yr hyn sydd wedi bod, sut mae hi arnon ni nawr a sut y dylai’r dyfodol edrych," ychwanegodd. "Mae'r amser wedi dod i ni beidio â byw yn y gorffennol ond i ddysgu ohono.
"Mae'r strategaeth hon yn gyfle i ni wneud yr Eglwys yn Esgobaeth Tyddewi yn berthnasol ac yn bresenoldeb er lles am byth.
"Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn agored i newid. Mae yna gyfnod cyffrous o'n blaenau. Gadewch i ni gerdded gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy disglair a chryfach."