Mannau Noddfa
Flwyddyn yn ôl, yn Ardal Gweinidogaeth Leol Aberystwyth, lansiwyd menter beilot i wella’r gefnogaeth i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig. Bellach, mae Lynn Rees yn gobeithio bod modd ymestyn y cynllun ar draws yr Esgobaeth.
Cwblhaodd saith o wirfoddolwyr hyfforddiant mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys cyngor ar sut i adnabod arwyddion o gam-drin domestig a’u harfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i roi cyngor a chefnogaeth, hybu ymwybyddiaeth o waith a galluoedd yr Eglwys a gwasanaethau cam-drin domestig, a sut i gefnogi ei gilydd yn well.
Yn ogystal ag archwilio arwyddion o gam-drin domestig ac ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol, bu’r hyfforddiant yn ystyried goblygiadau Beiblaidd cam-drin domestig a chanfyddiadau ymchwil a gynhaliwyd ymhlith cymunedau eglwysig. Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar un o bob pedair menyw ac un o bob chwe dyn, yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Coventry a’r sefydliad diogelu Thirty-One Eight gyda 230 o eglwysi yn 2018, er bod cam-drin domestig yn cael ei ystyried yn broblem yn y gymuned ehangach (77.3%) dim ond 37.6 y cant o’r ymatebwyr oedd yn credu ei bod yn broblem yn eu heglwys. Mewn gwirionedd, roedd 57.4% o’r menywod a 16.7% o’r dynion a holwyd mewn cynulleidfaoedd eglwysig wedi profi cam-drin domestig.
Mae’r gwaith ymchwil hwn hefyd yn nodi y gall yr Eglwys chwarae rhan bwysig wrth gefnogi goroeswyr cam-drin domestig, ond dim ond dau o bob saith ymatebydd oedd yn credu bod gan eu heglwys yr adnoddau i ddelio â cham-drin domestig. Yn wir, credai dwy ran o dair o ymatebwyr y gallai’r eglwys wneud mwy, gan nodi bod awydd i’r eglwys ddod yn fan lle gall pobl sy’n dioddef camdriniaeth ddod o hyd i gymorth. Fel rhan o’r cynllun peilot, bydd staff cam-drin domestig yn cynnal sesiynau galw heibio yn eglwysi Sant Mihangel a’r Santes Anne.
Gyda’r cynllun peilot bellach wedi dod i ben, bydd gwerthusiad llawn yn cael ei gynnal a’r gobaith yw y bydd y cynllun mannau noddfa yn cael ei ymestyn i eglwysi eraill ar draws yr Esgobaeth. Mae cymorth a chyngor ar gael i unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig ac sy’n byw yng Ngheredigion gan Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru ar 01970 625585, ac i unrhyw un sy’n byw mewn rhannau eraill o Gymru gan Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.