Atgofion Ystrad Fflur
Mae Charles Arch yn cofio am ei blentyndod mewn ardal acEglwys sy mor bwysig i ni’r Cymry
Rwyf fi bellach wedi croesi 87 oed ac yn sicr mae wedi bod yn gyfnod o newid mawr mewn cymdeithas. O fod yn ardal hollol Gymreig, mae nifer y Saeson sy wedi symud yma yn cynyddu bob blwyddyn. Hefyd mae’r traddodiadau yn mynd, megis y ffeiriau cyflogi, ffair gwerthu sanau gwlân, ffair gwsberins a nifer arall.Ciliodd y ffermwyr mynydd o gymoedd Glasffrwd, Tywi, a Soar. Roedd nifer o’r rhain ar adeg angladd yn gadael eu merlod ar iard Fferm Y Fynachlog, fy nghartref, ac yn aros yn rhes o lidiart y fynwent hyd at yr eglwys mewn dillad duon, sgidiau sgleiniog a hetiau bowler. Wrth i’r arch nesau at lidiart y fynwent, codwyd pob het i ddangos parch.
Bellach, mae’r gwasanaeth Plygain am chwech o’r gloch fore Nadolig wedi diflannu. Yn grwt, arhoswn wrth ddrws yr Eglwys yn gwylio’r lanternau yn dod o bob ochr o’r cwm. Bryd hynny, roedd y gwasanaethau Nadolig, Pasg a’r Cyrddau Diolchgarwch mor bwysig i bob teulu.
Heddiw, criw bach o ryw saith o rai hŷn sydd yn cynnal gwasanaeth. Serch hynny, mae’r traddodiad o gynnal teulu mewn trallod angladd yn dal yn gryf er bod cymdeithas y mynydd wedi diflannu. Ond, er syndod a phleser, daw rhieni â’u plant i’r Eglwys ac i gapel i’w bedyddio a’u priodi.
Rhyfedd meddwl mewn byd o newid y deil drws yr Eglwys yn agored. Saif yr hen goeden ywen fel cynt, a deil y ddadl a ydy Dafydd ap Gwilym wedi ei gladdu oddi tani ai peidio. Mae arian y diweddar Syr David James a nifer o garedigion lleol yn galluogi’r pwyllgor gofal i ofalu am y fynwent a’i chadw yn werth edrych arni.
Mae’r hen ysgol fu’n darparu addysg bore oes i gymaint ohonom bellach yn swyddfa ‘Cadw’ sydd â gofal dros yr hen Abaty, ond i ni, Ysgol ‘Nachlog fydd hi tra byddwn byw. Bellach mae nifer y disgyblion fu yno yn lleihau bob blwyddyn, ond i’r gweddill sydd ar ôl, mae eu gwreiddiau’n ddwfn ym mhriddyn yr hen ardal.
Do, diflannodd sŵn y bedol, y gambo a’r gert a go brin bydd neb ar ôl cyn bo hir i drin y bladur na’r cryman.
Ymddangosodd yr erthygl hon yn rhifyn arbennig Eisteddfod Tregaron 2022. Rhoddodd Charles Arch ei ganiatad i ni ei ddefnyddio eto. Yn drist iawn, bu farw Charles ym Mehefin eleni. Estynnwn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau.