Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Mae cynnal a chadw yn fater o RAID, nid “efallai nes ymlaen...”

Mae cynnal a chadw yn fater o RAID, nid “efallai nes ymlaen...”

Mae Nicola Davies, Syrfëwr yr Esgobaeth, yn esbonio pam, a lle mae cymorth i’w gael.

Ein haddoldai hanesyddol yn aml yw'r adeiladau hynaf ac amlycaf yn ein cymunedau ac yn aml mae ganddyn nhw gymeriad ac ymdeimlad o le. I lawer, yn aml, dyma’r unig adeilad hanesyddol y mae pobl yn uniaethu â nhw, mewn rhyw ffordd, ac mae’n adeilad nad oes rhaid i rywun fod â ffydd i deimlo'n angerddol yn ei gylch.

Fel Cristnogion rydyn ni’n deall ein rôl fel ceidwaid. Fel ein hynafiaid o'n blaenau, rydyn ni bellach yn gyfrifol am ofalu am yr adeiladau hyn er mwyn trosglwyddo'r baton ac maen nhw’n dibynnu ar ewyllys da a chefnogaeth y bobl o'u cwmpas.

Chawson ni fawr o heulwen yr haf hwn a gyda’r hydref a'r gaeaf yn prysur agosáu, mae’n amser perffaith i dorchi llewys a gwneud y gwaith cynnal a chadw arferol y byddai'n well gennym ni i gyd ei osgoi.

Church Maintenance 2

Mae ein hadeiladau'n amrywio o ran maint a graddfa, ac aelodau'r gynulleidfa'n amrywio o ran oedran ac arbenigedd a dydyn ni ddim am i unrhyw un fentro ar ben ysgol i lanhau cwteri heb ryw lefel o allu i wneud hynny, ond mae'n rhaid i rywun ei wneud e ac mae angen i ni i gyd fod yn rhagweithiol yn hyn o beth.

Mae rhai tasgau yn gymharol syml, mae rhai yn reit fudr a bydd angen help eraill i wneud rhai a bydd angen talu am yr help hwnnw. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod yr esgid fach yn gwasgu mewn sawl man, ond yn aml pan fyddwn yn estyn allan i'n cymunedau gyda chais am help i gynnal a chadw ein hadeiladau hanesyddol, a gofyn am ddwy awr o amser rhywun, sy’n hen law ar ddringo ysgol efallai, neu i godi arian yn benodol ar gyfer y dasg dan sylw, bydd pobl leol yn ddieithriad yn camu ymlaen i helpu. Dim ond gofyn sydd raid.

Dŵr yw ein gelyn pennaf. Mae'r rhan fwyaf o'n hadeiladau wedi'u hadeiladu gyda deunyddiau traddodiadol sy'n gallu dal lleithder a gwaethygu'r problemau sy'n bresennol, landeri wedi'u blocio, ac ati, felly cael gwared ar yr holl ddŵr yn gyflym yw'r dasg gyntaf.

Rydyn ni wrthi'n paratoi pecyn gwybodaeth yn benodol ar gyfer cynnal a chadw ein hadeiladau yn rheolaidd, a fydd ar gael cyn hir, a bydd gwybodaeth am sut y gallwch gael gafael arno yn cael ei hanfon i bob eglwys, maes o law.

Bydd Nicola Davies, Syrfëwr yr Esgobaeth a Janet Every, Swyddog Gofal am Eglwysi, ac eraill, yn cynnig Clinig Cyngor ar Adeiladau Eglwysi ym mhob archddiaconiaeth dros y misoedd nesaf i roi cyngor ar gynnal a chadw yn ogystal â chefnogaeth a chyngor ar hawlebau. Bydd y dyddiadau'n cael eu cadarnhau ym mis Medi. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch fi ar nicoladavies@cinw.org.uk