Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Edrych tua’r dyfodol

Edrych tua’r dyfodol

CYF WEelsh Logo [PIT]

Sophie Whitmarsh sy’n rhoi disgrifiad byr o’r Flwyddyn Blant, Ieuenctid a Theuluoedd arfaethedig, beth all yr Esgobaeth ei ddisgwyl a beth yw’r disgwyliadau o ran yr Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol wrth i ni gychwyn ar flwyddyn sy’n arwyddocaol ar gyfer dyfodol yr esgobaeth.

Bedair cynhadledd yn ôl, barnwyd mai gweithio gyda phlant, ieuenctid a theuluoedd oedd y brif flaenoriaeth i’r esgobaeth, ac o ganlyniad, crëwyd fy swydd i.

Yn y cyfnod hwnnw, rydw i wedi llunio strategaeth ar gyfer gwaith Plant, Ieuenctid a Theuluoedd – un sydd, yn fy marn i, yn ddigon hyblyg i alluogi pob Ardal Weinidogaeth Leol i weithio gyda hi. Yn ystod y gynhadledd eleni, byddwn yn edrych yn fanwl ar y strategaeth, a sut i’w defnyddio yn ein Hardaloedd Gweinidogaeth Lleol ein hunain. Byddwn yn edrych yn ymarferol ar ble rydyn ni arni fel Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol, a lle fydden ni’n hoffi bod.

Yn ogystal â’r strategaeth, bydd sawl stondin gydag adnoddau ar gael a siaradwyr gwadd yn sôn am eu hadnoddau a’r hyn sydd ar gael er mwyn i ni estyn allan. Mae’r Esgob Dorrien hefyd wedi gwahodd rhai o’r Pererinion Ifanc i siarad am eu profiadau ar ein Pererindod eleni.

Yn ogystal, byddaf yn sôn am fy nghynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd y flwyddyn yn seiliedig ar ddigwyddiadau i raddau helaeth, gyda chyfle i bawb gymryd rhan. Dewch â’ch dyddiaduron gyda chi i’r gynhadledd, ynghyd â pharodrwydd i fod yn rhan o’r holl gynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod, a bydd hynny’n ffordd berffaith o baratoi ar gyfer y Flwyddyn Genhadaeth i ddod gyda’r Esgob Dorrien.

Rwy’n edrych ymlaen at y gynhadledd eleni ac at weld beth fydd Duw yn ei wneud ynom a thrwom ni fel esgobaeth yn ystod y flwyddyn i ddod.

Mae Duw yn dda.