Dysgu yn y gwaith
Yr hydref diwethaf, lansiodd Padarn Sant Brentisiaeth yr Eglwys yng Nghymru mewn Gweinidogaeth Gristnogol, y rhaglen gyntaf o'i bath yng Nghymru. Mae'r Parchedig Ddr Mark Griffiths, Deon Padarn Sant, wedi ei blesio gan ei llwyddiant.
Mae'r rhaglen yn cael ei chymeradwyo a'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gyfle i bobl ifanc wneud swydd am 12-18 mis a chael blas ar weinidogaeth Gristnogol. Yn ein carfan gyntaf, cofrestrodd deg o bobl ifanc o esgobaethau Llandaf a Thyddewi ar y rhaglen.
Maen nhw wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cael eu cyflogi gan eu heglwysi lleol ac wedi gweithio mewn ysgolion, digwyddiadau allgymorth, mewn banciau bwyd a charchardai ac wedi pregethu ac arwain gwasanaethau ar y Sul ac yn ystod yr wythnos.
Maen nhw hefyd wedi sefydlu clybiau ieuenctid a phlant; maen nhw wedi cymryd rhan yng nghyfarfodydd cynghorau’r Eglwys a chyfarfodydd staff i ddatblygu dealltwriaeth o strwythur a swyddogaeth eglwysi lleol ac Ardaloedd Gweinidogaeth. Mae'r adborth a gafwyd yn awgrymu eu bod wedi bod yn fendith sylweddol i'r eglwysi lle roedden nhw’n gweithio, ac mae'r prentisiaid eu hunain wedi gweld y profiad yn eithriadol o werthfawr.
Mae nifer o'r prentisiaid yn parhau â'u hastudiaethau am ail flwyddyn, a rhai wedi cymryd swyddi llawn amser fel gweithwyr ieuenctid a phlant neu arweinwyr addoli mewn eglwys leol. Bydd un yn mynd ymlaen i hyfforddi fel athro.
Mae llawer o'r prentisiaid blwyddyn gyntaf wedi symud i'r broses ddethol i archwilio eu llwybr i’r weinidogaeth ac mae'n galonogol gweld canlyniad yr hyfforddiant. Gobeithio y bydd hyn yn meithrin a chefnogi offeiriaid i’r dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn, maen nhw wedi cyflawni Lefel 4 (gradd blwyddyn gyntaf) mewn Cenhadaeth a Gweinidogaeth yn y Gweithle (a addysgir bob bore Llun ar-lein a dau gwrs preswyl). Bydd y rhai sy’n gadael cyn Blwyddyn 2 wedi ennill profiad mewn eglwys leol a chymhwyster cydnabyddedig. Mae wedi bod yn bleser teithio gyda nhw.
Rydyn ni eisoes wedi derbyn ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno dechrau'r rhaglen ym mis Medi ac mae'r ffenestr ymgeisio ar agor.
Os oes gan eich Eglwys ddiddordeb mewn cyflogi prentis neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar: apprenticeships@stpadarns.ac.uk