Chwerthin yn y glaw
Er gwaethaf y tywydd garw, mynychodd 125 o deuluoedd o brosiectau Plant Dewi ar draws yr esgobaeth Ddiwrnod Hwyl Plant Dewi ar 8 Awst yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Catrin Eldred, Rheolwr Plant Dewi, sy’n sôn am y diwrnod:
Gyda diolch i gronfa AFIA Undeb y Mamau, Cronfa Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Esgobaeth Tyddewi, a grant Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor Sir Ceredigion, bu modd i ni gynnal digwyddiad gwych arall eleni, ochr yn ochr â'r tîm Datblygu Addysg yn yr Ardd Fotaneg.
Yn ystod y dydd, cafodd plant a'u rhieni a'u gofalwyr gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys clai creadigol, tatŵs glityr, helfa sborion, addurno teils pren, chwarae blêr a dŵr, arbrofion halen a golau, Mathemateg Lluosi, crefft cwcis, gemau parasiwt, Stori a chân actol, gwneud bathodynnau, dod o hyd i'r ddeilen, saethyddiaeth, Twnnel Gobaith Undeb y Mamau, pysgota mewn pyllau, rasio rafftiau a hwyaid a choginio dros dân. Hwyluswyd y rhan fwyaf o'r gweithgareddau hyn gan staff Plant Dewi a diolch o galon i bob un ohonyn nhw am eu gwaith yn paratoi ar gyfer y diwrnod, ac am sicrhau diwrnod i’r brenin ar y dydd.
Roedd rhywbeth at ddant pob oedran ac mae'r adborth wedi bod yn wych. Mae rhieni wedi dweud wrthym pa mor werthfawr fu'r diwrnod allan yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Mae diddanu plant am chwe wythnos yn heriol, yn enwedig gan fod yr argyfwng costau byw mor amlwg ymhlith y teuluoedd rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Cafodd cludiant a lluniaeth ysgafn eu cynnwys i chwalu'r rhwystrau a oedd yn atal teuluoedd rhag mynychu, gan roi cyfleoedd iddyn nhw greu atgofion anhygoel gyda'i gilydd.
Roedd hefyd yn anrhydedd ac yn fraint cael croesawu Esgob Tyddewi i'r digwyddiad. Roedd wrth ei fodd yn cymryd rhan yn y gemau parasiwt, y crefftau cwci a’r saethyddiaeth a chafodd y cyfle i gwrdd â theuluoedd sy'n elwa ar ein prosiectau gydol y flwyddyn.
Roedd y digwyddiad hefyd yn rhan allweddol o’r Flwyddyn Halen a Goleuni, a ‘teulu’ oedd thema mis Awst. Mae eglwysi sy'n lleol i bob un o brosiectau Plant Dewi wedi bod yn mynychu canolfannau a grwpiau gydol yr haf i ddysgu mwy am ein gwaith a'r effaith gadarnhaol a gawn ar deuluoedd â phlant ifanc ledled esgobaeth Tyddewi.
Am ragor o wybodaeth am Plant Dewi, ewch i'r wefan – www.plantdewi.org.uk, e-bostiwch info@plantdewi.co.uk neu ffoniwch 01267 221551.