Dysgu bob yn dipyn
Mae prif wasanaeth y Sul yn y Santes Fair, Porth Tywyn, wedi bod yn ddwyieithog ers sawl blwyddyn, ond roedd siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gweld eisiau gwasanaeth cymun Cymraeg. Enfys Tanner sydd â'r ateb.
Fe wnaeth ein ficer Lorna Bradley, sy'n dysgu Cymraeg, feddwl am y syniad o gael gwasanaeth i ddysgwyr Cymraeg unwaith y mis.
Mae yna alluoedd cymysg yn ein cynulleidfaoedd gyda llawer sydd â rhywfaint o Gymraeg ond heb yr hyder i siarad yr iaith.
Ar ôl trafod, dechreuais symleiddio'r gwasanaeth cymun Cymraeg presennol. Fy nod oedd cadw'r iaith mor syml â phosib heb golli dim o ystyr y litwrgi ac osgoi defnyddio geiriau o fwy na dwy sill i’r graddau y bo hynny’n bosibl. Doedd hynny ddim yn bosib bob tro, ond dwi wedi gwneud fy ngorau glas. Roeddwn i am i’r gwasanaeth fod mor hawdd â phosib i'w ddarllen a’i ynganu.
Fy nod arall oedd gwneud y testun yn haws ei ddeall i'r rhai sy'n dysgu'r iaith. Mae'r gwasanaethau wedi bod yn llwyddiannus. Dwi'n trio cael pawb i arafu, hyd yn oed y siaradwyr rhugl, fel ein bod ni i gyd yn cael y cyfle i sawru'r iaith ac ystyried y neges a’i gwir ystyr.
Mae'n wasanaeth hawdd, hamddenol braf gyda chanu a rhywfaint o chwerthin! Mae’n debyg y gellid ei ystyried fel cam tuag at ddarllen a deall y gwasanaeth cymun Cymraeg mwy traddodiadol.
Os hoffech gopi digidol o'r gwasanaeth, cysylltwch â mi trwy ffonio 07812 177896 neu e-bostiwch daitanner@icloud.com