We are currently in the process of making our entire website bilingual.

Unfortunately, this page has not been fully translated yet but will be soon. If you would like to help us translate this page sooner and contribute in a way that helps us reach more people through the website, please click on the button below. Alternatively, you can ask for this page to be translated and we will do our best to do so as soon as possible.

Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Ar Lwybr Dysgu

Ar Lwybr Dysgu

Benjamin Rwizibuka [DRC].JPG

Mae Benjamin Rwizibuka ar fin dod i Gymru o Bukavu sef un o’n Hesgobaethau Cydymaith, ac mae’n edrych ymlaen at gychwyn ar Radd Meistr. Er hynny, mae’n ymwybodol hefyd o’r problemau gafodd ei ffrindiau ar lwybr academaidd tebyg.

Mae angen sgiliau gweinyddol ac arweinyddiaeth i allu manteisio ar y cyfoeth a'r adnoddau naturiol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC), Felly, mae cwrs academaidd da gyda phrofiad perthnasol i ddilyn, yn ffordd wych o ddatblygu’r rhain. Ond mae'r sefydliadau gorau yn y byd yn Ewrop ac America, ac mae mwy a mwy o fyfyrwyr o’r Congo yn awyddus i gael addysg o ansawdd uchel gan sefydliadau tramor ond maen nhw’n agored i lawer o beryglon, rhwystrau a phryderon.

Cyrchfannau poblogaidd i fyfyrwyr o’r Congo yw Canada, Gwlad Belg, Ffrainc a gwledydd eraill lle mae Ffrangeg yn iaith swyddogol. Y rheswm am hyn yw iaith y sefydliadau a'r ffioedd dysgu cymharol isel: yng Ngwlad Belg er enghraifft, ar gyfer gradd meistr, nid yw myfyrwyr o’r Congo yn talu mwy na £1,500 y flwyddyn tra bod y rhan fwyaf o raddau yn y DU ac UDA yn uwch na £10,000 y flwyddyn

Y prif heriau i fyfyrwyr rhyngwladol o’r Congo yw'r cyfundrefnau addysg a'r cyflymder wrth gyflawni gwaith. Wrth drafod eu profiadau yn Ewrop, America a Tsieina dywedodd rhai myfyrwyr, yn sgil y trefniadau dysgu hynod gyflym hyn fod modd iddyn nhw golli semester, methu cyflawni dyddiadau cau neu hyd yn oed fethu'r rhaglen gyfan.

Mae iaith yn broblem hefyd i'r rhai sy'n cychwyn ar gwrs nad yw yn Ffrangeg (Ffrangeg yw iaith swyddogol ac iaith addysg yn DRC) a rhaid i’r myfyrwyr hyn feistroli iaith newydd, ac mae hyn yn debygol o gyfyngu ar eu gallu i fynegi eu hunain yn llawn. Mae myfyrwyr yn Tsieina, er enghraifft, nid yn unig yn cael anhawster i fynegi eu hunain yn Saesneg ond fe’u gwahoddir i ddilyn dosbarthiadau Tsieineaidd hefyd lle gall yr addysgu academaidd ei hun fod mewn Saesneg gwael.

Mae unigrwydd yn brofiad cyffredin hefyd pan ddaw myfyriwr i ddinas newydd a bydd yr unig gymorth sydd ar gael, sy’n gallu bod yn brin mewn rhai sefyllfaoedd, yn dod o'r brifysgol.

Mae hiliaeth yn ffactor arwyddocaol hefyd a bydd rhai myfyrwyr yn cael profiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o hynny wrth ffurfio timau gwaith, cwrdd â phobl newydd, neu hyd yn oed wrth ofyn am wasanaethau cyhoeddus. Mae'r heriau hyn yn enfawr ond rwy'n dal i gredu bod modd eu goresgyn.

Ym mis Medi eleni, byddaf innau’n un o’r rhai sy'n mynd dramor i chwilio am ragoriaeth academaidd. Wn i ddim pa heriau y bydd angen i mi eu hwynebu, ond mentraf gredu y bydd yr awydd i ddysgu a gwella bywydau beunyddiol fy nghymuned, ar ôl i mi ddychwelyd i DRC, yn fy nghadw i fynd, beth bynnag ddaw.